Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwyn i lys yr Esgob am na phreswyliai yn y plwyf y penodwyd ef iddo.[1] Un o'i bechodau mawr, fel ei gyfoeswr John Wesley, ydoedd ystyried ei blwyf gyfled â'r byd. Dywed traddodiad y cyhuddid ef yn llys yr Esgob o bedwar ar bymtheg o fân bechodau, eithr unig resymau'r Esgob tros wrthod urddau cyflawn, yn ol Williams ei hun, ydoedd ei fod yn Fethodist, ac yn gymeradwy gan y plwyfolion.[2]

GADAEL YR EGLWYS WLADOL.

Dywedai'r Parch. Thomas Rees, D.D., yn 1883,[3] a dywedai llenor arall yn 1909,[4] i'r Eglwys Wladol esgymuno Williams, ac nid oedd y Parch. Thomas Charles yn sicr ar y pwynt. Eithr erbyn hyn y mae prawf pendant gefnu o'r emynydd ar yr Eglwys ohono'i hun ac o'i fodd. Ceir cofnod ar hyn yn Minutes of the Associations, Trevecka MSS. Cynhaliwyd Cymdeithasfa gan y diwygwyr Methodistaidd yn Watford, Ebrill 6 a 7, 1743, a'r penderfyniad cyntaf a gofnodir ydyw:

"Resolved that the Rev. Mr. Williams should leave his Curacy and be assistant to the Rev. Mr. Rowlands."

William Williams ydoedd y cyntaf o'r diwygwyr i ddyfod yn Ymneilltuwr. Parhaodd Daniel Rowlands yn offeiriad am flynyddoedd wedyn, oni thorrwyd ef allan yn 1763, ac arhosodd Howell Harris mewn undeb â'r Eglwys Wladol hyd ei fedd. Tebig ydyw y cynorthwyai Williams lawer ar eglwys Fethodistaidd Cilycwm cyn torri ei gysylltiad â'r Eglwys Sefydledig, a phan ymunodd â'r Trefnyddion ymaelododd yng Nghilycwm.

  1. Llythyr Rowlands at Howell Harris, dyddiedig Hydref 20, 1742.
  2. Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, Cyf. III. Rhif 2.
  3. Hist. Pro. Noncon., td. 380. Thomas Rees, D.D.
  4. Manual of Welsh Literature. J. C. Morrice, M.A.