Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Capten William Middleton (Gwilym Ganoldref) oedd y cyntaf i droi'r holl Salmau i gân Gymraeg, a chyhoeddwyd hwy yn 1603. Ymhen deunaw mlynedd caed cyfieithiad Edmwnd Prys, ac yn 1753 cyhoeddwyd cyfieithiad Dafydd Jones o fydryddiad y Dr. Isaac Watts o'r Salmau. Dyma wyneb—ddalen argraffiad cyntaf cyfieithiad Dafydd Jones:

Salmau Dafydd wedi eu cyfansoddi yn ol iaith y
Testament Newydd, ac wedi eu cymhwyso i Stâd ac
Addoliad Cris'nogol.


Yn Saesneg
Gan I. Watts, D.D.


Ac a gyfieithwyd i'r Gymraeg, allan o'r Bymthegfed
Argraffiad, gan D. Jones, o Gayo.


Luc xxiv. 44," Rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd
yn y Salmau am danafi."


Heb. xi. 32, 40, "Dafydd, Samuel, a'r Prophwydi, fel
na Pherffeithid hwynt hebom ninnau."


Llundain: Argraphwyd gan Ioan Olfir, ym Martholomy Clôs,
gerllaw Smithfield Gorllewinol.
M,DCC,LIII.

Mewn rhagymadrodd byr dywed y cyfieithydd,—Trwy gynghor ac annogaeth rhai Gweinidogion Parchedig (ond nid heb olwg ar fy Anghymwyster fy hun) mi a ymosodais ar y gwaith; a thrwy lawer o boen a llafur (ond nid heb lawer o bleser a hyfrydwch weithiau) mi a'i gorphenais; ac wedi cael barn a phrofiad rhai gweinidogion dysgedig arno, danfonais ef i'r argraphwasg."