Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Parch. John Thomas ddarlun ohono fel gwrandawr:

Pan elwy'i Grugybar a'r Hafod,
Ni wela'i mwy o Dafydd hynod,
Yma gwelais ef rai prydiau
Dan y Gair yn chwerthin dagrau,
Gan hwylio'i danau gyda'r fyddin,
Ac ar ei wên yn mhlith y werin;
Wrth ei fodd, byddai ar goedd,
Mewn modd siriol,
Pan bai'r Brenin mawr tragwyddol,
Yn rhoi tro yn mhlith ei bobol.

Gweinidog sefydlog cyntaf Crugybar ydoedd y Parch. Isaac Price.[1] Yn ei amser ef yr adeiladwyd y trydydd capel, a pharhaodd ei ofal am yr eglwys am agos i hanner can mlynedd. Yr oedd Isaac Price a Dafydd Jones o'r un ysbryd a'r diwygwyr Methodistaidd, yn cydymdeimlo'n ddwfn â'r Diwygiad, ac yn llawenhau yn ei lwyddiant. Os ceid yn hen eglwysi'r Ymneilltuwyr ffurfioldeb oer, a mesur o wrthwynebiad i'r diwygwyr oherwydd eu brwdfrydedd tanllyd, prin y gellir credu fod eglwys Crugybar a arweinid gan weinidog efengylaidd ac emynydd ysbrydol yn euog o'r cyfryw ffaeleddau. Dyma dystiolaeth y Parch. John Thomas i nodwedd ysbryd Dafydd Jones:

Cyfaill i'r gwir bererinion,
I bob enw oedd o'i galon;
O Ysbryd rhydd, ac ni fel llawer,
Yn llawn o barti-sêl a chleber;
'Rhyn sy'n ymdaenu dros y gwledydd
 Bron a bwyta bywyd crefydd;
Caru wnai, dduwiol rai,
Er bai a gwendidau,
Ag yn ebrwydd cydymdeimlai
A rhai gweinion eu grasusau.


  1. Llythyr y Parch. D. B. Richards.