Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe dynwyd hwnw ymaith yn nghyd a'i bwys a'i boen,
Mi ganaf yn dragywydd am rinwedd Gwaed yr Oen.

A pheth pe bawn yn neidio, a'i wneud e gyda pharch,
A chwareu megys Dafydd cyn hyn o flaen yr arch?
Neu'r cloff wrth borth y demel, am hwnw clywsoch sôn,
Pan oedd e'n teimlo iechyd a rhinwedd Gwaed yr Oen?

Nid oedd Dafydd Jones i'w gymharu o ran gallu naturiol a dysg ag arweinwyr y Diwygiad, eithr yr oedd cyn wresoced ei ysbryd a hwythau, ac ni bu'n segur yng ngwinllan ei Arglwydd. Yn ychwanegol at amaethu, a phrynu a gwerthu anifeiliaid, a chyfansoddi a chyfieithu cannoedd o emynau, dilynai lawer ar weinidogion o fan i fan trwy'r wlad. Cofnodir hanesyn am dano ar un o'r teithiau hyn a brawf ei fod yn grefyddwr anghyffredin. Digwyddai un o'r enw Mr. Perkins, o Bencader, bregethu mewn lle a elwid "Y Pound" yn Llanbedr-Pont-Stephan, i dyrfa fawr o bobl, a Dafydd Jones yn eu plith. Trefnodd gŵr bonheddig,' a breswyliai yn y gymdogaeth, i nifer of bersonau ann iwiol a dibris ymosod ar y tŷ. Llusgwyd y pregethwr i'r heol, ac ymosodwyd ar y gwrandawyr, eithr ar darawiad syrthiodd Dafydd Jones ar ei liniau, dyrchafodd ei olwg a'i ddwylo tua'r nef, a gweddïodd â'r fath daerni a dylanwad nes dychrynu a pharlysu ohono'r gelynion. Siomwyd y gŵr boneddig gymaint gan fethiant yr ymosod oni throdd allan ŵr y tŷ y cynhelid y cyfarfod ynddo. Cafodd yntau fwthyn tu hwnt i'r bont, a chroesawodd yr Ymneilltuwyr i'w annedd newydd, a buont yno'n addoli am flynyddoedd lawer.[1]

Gosodai'r hen emynydd ei fryd ar gael y doniau goreu a'r nerthoedd ysbrydol cryfaf i Grugybar. Teithiai ymhell ac yn aml i gyrchu'r pregethwyr mwyaf efengylaidd a thanllyd, ac wedi eu cael ymorfoleddai mewn chwerthin a dagrau tan ddylanwad eu gweinidogaeth. Rhydd y

  1. Hist of Prot. Non. in Wales, Thos. Rees, D.D.