Merthyr, a myfi fy hun ddaeth â Mr. Harris i bregethu i Sir Fynwy. Y mae yn syndod i'r dyn ddyweyd y fath beth ag yntau wedi ei eni a derbyn ei addysg ymhlith yr Ymneilltuwyr."[1] Ofnai Edmwnd Jones oni pheidiai'r Methodistiaid â beirniadu a beio y cefnai Duw arnynt, ac y collent eu nerth a'u dylanwad.
Yr oedd y Parch. Edmwnd Jones ei hun yn ddyn ysbrydol iawn ei feddwl, a'i ddylanwad yn fawr yn y wlad, a dengys ei ddyddlyfr y llafuriai bron yn ddiorffwys. Yn 1770 pregethodd 337 o weithiau, yn 1773 pregethodd 511 o weithiau, a blwyddyn ei farw 1789, ac efe'n bedwar ugain ac wyth, pregethodd 405 o weithiau. Am nodwedd ei ysbryd a'i waith, ni ellir gwell tystiolaeth na geiriau Arglwyddes Huntingdon,—"Y mae'r hen broffwyd annwyl a da newydd ein gadael. O'r fath sant gwynfydedig! Mor gysegrol, mor siriol, mor ymdrechgar; bob amser yn sychedu am gymundeb llawn â Thad y goleuni. Y mae ei anerchiadau i'r myfyrwyr, a'i weddiau taer a gwresog am eu llwyddiant, yn sicr o adael bendith ar eu hôl."[2] Gwelir oddi wrth y dyfyniad hwn fod Edmwnd Jones yn ŵr addas i ffurfio barn am gyflwr ysbrydol eglwysi ei oes.
Dengys un o ganeuon Dafydd Jones ei fod yntau, er yn perthyn i'r "Dissenters Sychion," fel y gelwai'r Diwygwyr hwy, yn gwybod am orfoledd crefydd, ac yn ddigon gwrol i amlygu hynny i'r byd:
Mae plant y byd yn holi, ac yn rhyfeddu'n syn, |