Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai isel ei chyflwr ydoedd yr eglwys a llwyd ei gwedd, fel eglwysi Ymneilltuol Cymru'n gyffredin y dyddiau hynny; eithr ganed Dafydd Jones o'r newydd pan oedd Diwygiad mawr yn y wlad, ac aeth tân y Diwygiad hwnnw i'w ysbryd.

Ymddengys mai ffurfiol ac oer ydoedd hen Eglwysi Ymneilltuol Cymru pan dorrodd gwawr y Diwygiad Methodistaidd, ond nid ydym i feddwl nad oedd dim crefydd yn y tir cyn ymddangos o Howel Harris a Daniel Rowlands. Nid ydyw sylwadau Pantycelyn ar gyflwr crefydd y cyfnod yn ei farwnad i Howel Harris yn llythrennol gywir:

Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na Ffeiriad,
Nac un Esgob ar ddi-hun;
Yn y cyfnos tywyll, pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym iâs,
Yn llawn gwreichion goleu tanllyd,
O Drefeca fach i mâs.

Y mae'n wir fod yr Eglwys wedi diosg gwisgoedd ei nerth a'i gogoniant, ond yr oedd ambell offeiriad, ac amryw weinidogion Ymneilltuol, yn effro ac egnïol, ac ychydig o eglwysi yma a thraw yn y Deheudir heb fod yn gwbl oer a diwaith. Rhyfeddai'r Hybarch Edmwnd Jones, Pontypwl, at ryfyg rhai o haeriadau Marwnadau Williams, ac yn ei ddyddlyfr am 1773, cyfeiria at yr hyn a ddywedir yn y pennill uchod fel "anwiredd digywilydd, oblegid yr oedd rhai offeiriaid yn effro ac ymdrechgar o'i flaen ef, megis Mr. Griffith Jones o Landdowror, Mr. Thomas Jones, o Cwmian; ac amryw weinidogion Ymneilltuol, megis Mr. John Thomas, yn Sir Gaernarfon, Mr. Williams, Tredustan; Mr. Morgan, Llanafan, yn Sir Frycheiniog; Mr. Mr. Vavasor Griffiths, ym Maesyfed; Palmer, Henllan, a Mr. W. Morrice, yn Sir Benfro; Mr. Philip Pugh, yn Sir Aberteifi; Mr. James Davies,