Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evans mai yn 1688 y sefydlwyd eglwys Annibynnol yn Crugybar;[1] eithr dywed y Parch. Dr. Davies, Ffrwdyfal, fod yno eglwys yn 1662".[2] Dichon fod y ddau yn gywir. Tystiolaeth y Parch. D. B. Richards, gweinidog presennol yr eglwys ydyw," 'Does dim sicrwydd pa bryd y cychwynwyd Crugybar, gan nad oes dim lleol i'n cynorthwyo i benderfynu'r pwnc; ond wedi byw am agos i ddeugain mlynedd yn yr ardal yn weinidog i'r eglwys, ac wedi darllen bron bob peth i'r cyfeiriad, fy marn bersonol i yw mai tua'r flwyddyn 1662 y dechreuodd yr Achos yn Crugybar, o'r hyn lleiaf, yr oedd yma rywbeth felly mewn bod yr amser hwnnw, gan nad faint yn gynt.[3]

Dysg traddodiad fod yng Nghrugybar yn y flwyddyn 1662 eglwys gymysg o Fedyddwyr ac Annibynwyr, ac iddi fudo i Fwlchyrhiw, yn unigedd Cwmcothi, yn ystod teyrnasiad Siarl II. a Iago II., pryd yr erlidid yr Ymneilltuwyr yn greulon. Yna ar ddyfodiad William III. i wisgo coron Prydain, dychwelodd yr Annibynwyr i Grugybar yn 1688, ac arhosodd y Bedyddwyr ym Mwlchyrhiw, ac y maent yno hyd heddyw.[4] Yn 1689 pasiwyd Deddf Goddefiad, a chafodd Ymneilltuwyr heddwch i addoli yn ol eu cydwybod. Yr adeilad presennol ydyw y pedwerydd capel, a dywedir y safai'r capel cyntaf ar ochr y brifffordd rhyw led cae cymedrol oddi wrth yr un presennol.

YR EMYNYDD FEL CREFYDDWR.

Ymunodd Dafydd Jones â'r Annibynwyr yng Nghrugybar, a chan ei fod yn dda arno bellach ynglŷn â'r ddau fyd, diau i'r eglwys gael ynddo drysor gwerthfawr. Ymddatblygodd yn gyflym yn grefyddwr deallus, gwresog ei ysbryd, a diflin ei ymdrech o blaid yr Efengyl. Dichon

  1. Diwygwyr Cymru, tud. 176, Beriah Gwynfe Evans.
  2. Y Diwygiwr, Cyf. XIII.
  3. Llythyr at yr awdur, Ebrill 5, 1916.
  4. Dywed y Parch. D. B. Richards y parheir i gredu'r traddodiad hwn yn ardal Caio.