Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mwyafrif o'r rhai sy'n cymdeithasu llawer ag anifeiliaid, meddyliai, fel ei gymdeithion, fwy am bethau da daear nag am y "pethau ni welir," a thrwy hyn ymddatblygodd yn fydol a chefnog. Yn wahanol i borthmyn yn gyffredin casglodd lawer o gyfoeth. Wrth ddychwelyd o Loegr un tro a gwerth yr anifeiliaid a werthasai yn ei logell, ffon onnen gref yn ei law, a chi neu ddau wrth ei sodlau, pan oddeutu chwe milltir o Lanfairmuallt, daeth at hen gapel Troedrhiwdalar. Enillodd y canu ei sylw, ac aeth yntau i mewn, a'r Saboth oedd hi. Yn yr oedfa honno achubwyd enaid y prydydd, a rhoed terfyn i'w fywyd bydol a phechadurus. Diflannodd gwanc y cybydd, collodd telyn y dafarn ei swyn, a pheidiodd gogan y rhigwm a bod yn demtasiwn.[1]

Nid ydyw Enwogion y Ffydd, a rhai llyfrau eraill, yn gywir pan ddywedant mai'r Parch. Isaac Price a bregethai yn yr oedfa y dychwelwyd Dafydd Jones at grefydd ynddi. Pwy bynnag a bregethai, nid Isaac Price ydoedd, oblegid yn 1755 yr urddwyd Price yn weinidog Llanwrtyd a Throedrhiwdalar, ac yn ôl[2] Mr. Williams, Llanwrtyd, ni ddechreuodd bregethu cyn 1754.[3] Yr oedd Dafydd Jones ar gais" amryw weinidogion parchedig " wedi cyfieithu a chyhoeddi Salmau Dr. Watts yn y flwyddyn 1753, ac y mae'n naturiol credu fod yr hwn a ystyrrid gan weinidogion yr enwad yn gymwys i ddarparu cyfryngau mawl i'r eglwys yn grefyddwr profiadol cyn dechreu gyrfa'r Parch. Isaac Price fel pregethwr. Y mae'r Annibynwyr yn Nhroedrhiwdalar ers tro byd, a bernir fod a fynno Walter Cradoc â sefydlu'r Eglwys yno. Gwyddys yn sicr i Vavasor Powel ac yntau deithio a phregethu llawer ym Mrycheiniog a Maesyfed.

Y mae'r Annibynwyr ym mhlwyf Caio er yn fore iawn. Ni wyddys yn bendant pa mor fore. Dywed Mr. Beriah

  1. Ceir y traddodiad hwn gan bob awdur a geisiodd roddi hanes yr emynydd.
  2. Hanes Eglwysi Annibynnol, Cyf. II.
  3. Yr Adolygydd", Cyf. I.