Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pum peth a wna bregethwr gallant,
Calon Pedr,[1] doniau Rowland,[2]
Corff Will Harri,[3] ceffyl Benny,[4]
Pwrs y Popkin, gyda hynny. [5]

Ymbriododd y prydydd â Miss Jones, o Abercarfan, ym mhlwyf Llanddewibrefi, Sir Aberteifi. Unwyd y ddau yn Eglwys y Plwyf hwnnw, ac ar ddydd y briodas aeth Dafydd a'i wraig ieuanc i Gwmgogerddan, bymtheg milltir o ffordd. Marchogai'r ddau un ceffyl-un glâs, ac nid rhyfedd i'r ceffyl chwythu a thuchan a chwysu llawer dan faich mor drwm. Canodd y gŵr ieuanc fel hyn:

Mae'r ceffyl glâs yn egwan,
A'r chwys oddiarno'n dropan,
Mae'r ffordd yn mhell, a'r llwyth yn drwm,
Oddi yma i Gwmgogerddan.

Gwnaeth merch Abercarfan wraig dda odiaeth i Dafydd Jones, ond bu farw yn 1748. Ymhen rhyw ysbaid—nid oes fodd gwybod yn sicr nifer y blynyddoedd ymbriododd eilwaith â Miss Price, Yr Hafod,[6] ym mhlwyf Llanwrda, Sir Gaerfyrddin, ac aeth i'r Hafod i fyw. Ceir hyn eglurhad paham y gelwir ef weithiau yn Dafydd Jones o Gaio, a phrydiau eraill yn Dafydd Jones, Llanwrda.

YR EMYNYDD YN DERBYN CREFYDD.

Yn ychwanegol at amaethu, arferai Dafydd Jones brynu anifeiliaid yng Nghymru a'u gwerthu yn Lloegr. Fel

  1. Y Parch. Peter Williams
  2. Y Parch. Daniel Rowlands.
  3. Dyn enwog ar gyfrif cryfder corff, a fu'n byw am dymor ym melin Llanwrtyd, ac yn pregethu am beth amser gyda'r Methodistiaid.
  4. Benjamin Thomas, hen bregethwr yn Sir Benfro.
  5. Gŵr cyfoethog o Abertawe, yn pregethu gyda'r Methodistiaid. Cyfieithodd Popkin rai llyfrau o'r Saesneg i'r Gymraeg, a chyhoeddodd hwy. (Gwêl Rhestr o Lyfrau argraffedig gan John Ross, gan Mr. John Davies, o'r Llyfrgell Genedlaethol).
  6. Dywed Hanes Emynwyr Cymru, y Parch. W. A. Griffiths, mai gweddw ydoedd ail wraig y prydydd; eithr dywed Enwogion y Ffydd a Geiriadur Bywgraffyddol y Parch. J. T. Jones mai morwyn ydoedd.