Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

emynydd. Nid oes i ni belydryn o oleuni ar fore bywyd Dafydd Jones. Ni wyddom am ei gyfoedion, ei fanteision, na'i arferion. Eithr gan y rhagorai ardal Caio ar ardaloedd gwledig eraill Cymru y dyddiau hynny mewn cyfryngau addysg, trwy fod y Parch. Leyshon Lewis, ficer y plwyf, yn cadw ysgol dda yno, y tebygolrwydd ydyw i fab amaethwr cefnog a pharchus fel Daniel John dderbyn cyfran helaethach na'r cyffredin o freintiau'r ysgol honno. Boed hynny'n wir a'i peidio, hawdd casglu oddi wrth ei waith fel prydydd a chyfieithydd iddo fwynhau gwell manteision addysg na phlant amaethwyr cyffredin Sir Gaerfyrddin yn yr oes honno, oblegid y mae'n sicr y gwyddai lawer o Saesneg yn ogystal a Chymraeg. Y cwbl a wyddis i sicrwydd am ei ddyddiau bore ydyw, bod y ddawn i brydyddu'n gref a pharod ynddo, ac yr ymhyfrydai yn bennaf mewn sennu a chellwair a thuchan. Dywedir fod iddo 'n was fachgen heb ddawn i ddim ond bwyta, a bwyta caws yn arbennig. Un tro codai'r cawswr ei lef mewn cwyn oherwydd caledi rhyw orchwyl, ac ebe'r prydydd:

Taw'r llipryn llo a'r wyneb llwyd,
Ti fyti fwyd o'r gore;
Pe delit gwys fel torrit gaws,
Fe fyddai'n haws dy ddiodde.

Wrth erchi esgidiau un tro, dywedai wrth y crydd,

Rhowch imi bâr o dapau,
Rhai tewon, nid rhai tenau,
A ddalio i fynd o fan i fan,
Yn wydnon dan fy ngwadnau.

Diau mai goganu y mae yn y ddau bennill a ganlyn:

Mae chwech peth a sych yn chwipyn,
Carreg noeth a genau meddwyn,
Cawod Ebrill, tap heb gwrw,
Pwll yr Haf, a dagrau gwidw.