Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w cenedl. Y mae hanes dynion mawr a da yn gofyn gwybod llawer am fywyd eu meddwl a'u calon, ynghŷd â'r dylanwadau amrywiol a fu'n cynorthwyo i'w ffurfio yng nghwrs eu tyfiant. Ychydig o hyn a geir ynglŷn â'r hen emynydd o Gaio. Nid oes air o gofiant iddo gan neb o'i gyfoeswyr ac eithrio'r Parch. John Thomas, Rhaeadr Gwy. Canodd ef farwnad iddo, a chyhoeddwyd hi y flwyddyn y bu farw, ac yna bu distawrwydd fel eiddo bedd am dros bedwar ugain mlynedd, hyd oni chwiliodd rhyw lenor caredig gilfachau traddodiad, a chyhoeddi ysgrif yn Nhraethodydd 1849. Y mae'r ysgrif hon yn un lafurfawr, eithr prin y mae'n ddiogel dibynnu arni, oblegid cyfeiliorna ynglŷn â rhai materion pwysig.

Bu llawer o ddyfalu parthed blwyddyn geni'r emynydd. Yn ol yr ysgrif yn Y Traethodydd, ganed ef yn 1669, a rhydd Eminent Welshmen, Williams, y flwyddyn 1710, eithr dywed ei gyfoeswr a'i gyfaill, y Parch. John Thomas, ei farw yn 1777, yn drigain a chwech oed; felly rhaid ei eni yn 1711:

Un mil tri saith i lawr yn gywrain,
Oedd oed Crist ein pen a'n perchen,
Degfed dydd ar hugain hefyd,
O fis Awst y cadd ei symud;
Chwech a thrigain mlwydd oedd yntau.
Pan yr hunodd gyda'i dadau;
I lwch y llawr, rhow'd e'i lawr,
Mewn galar mawr unwedd;
Yng Nghrug y Bar y rhow'd e'i orwedd,
Nes delo'r adgyfodiad rhyfedd.

Collwyd rhawd rhieni Dafydd Jones yn niwl tew y gorffennol pell, ac ni ddwg enwogrwydd y mab i'n hoes ni onid enw'r tad yn unig, sef Daniel John. Tybir mai brodor o Dregaron, Sir Aberteifi, ydoedd y tad. Yr oedd ffermydd Cwmgogerddan Uchaf, a Chwmgogerddan Isaf, ym mhlwyf Caio, Sir Gaerfyrddin, yn eiddo i Daniel John, tra rhedai'r dŵr, ac yn un o'r ddau le hyn y ganed yr