Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

CYFOESWYR PANTYCELYN.

ΜEWN un ystyr bwysig y mae oes aur Cymru yn y gorffennol. Diau fod pethau mawr a da ymlaen; eithr hyd yma rhaid edrych yn ol i'r unfed ganrif ar bymtheg i weled y cyfnod llenyddol hynotaf yn ein hanes. Yno ceir William Lleyn, Gwilym Ganoldref, Sion Dafydd Rhys, Morris Cyffin, William Salsbri, y Vicer Pritchard, yr Esgobion William Morgan a Richard Davies, Edmwnd Prys, ac eraill, sêr disglair, a Salsbri, Morgan a Prys fel comedau mawr yn eu plith. Gwnaeth y tri hyn wasanaeth amhrisiadwy i'n cenedl ni. Caed y Testament Newydd mewn Cymraeg gan Salsbri yn 1567; cyfieithodd Esgob Morgan yr holl Feibl i'n hiaith a chyhoeddwyd ef yn 1588; ac yn 1621 caed y Salmau Cân "wedi ei cyfieithu ai cyfansoddi ar Fesur Cerdd yn Gymraec" gan yr Archddiacon Prys. Cyn belled ag yr oedd moddion mawl cyhoeddus yn y gynulleidfa'n bod, bu raid i Gymru fyw ar lewyrch gwawr bore Edmwnd Prys hyd y ddeunawfed ganrif; ond yn y ganrif honno caed goleuni a gwres dydd cyfan. Dilynydd uniongyrchol yr Archddiacon fel emynydd ydoedd Williams, Pantycelyn, eithr ar ei sawdl ef caed yn dilyn Dafydd Jones, Morgan Rhys, a Dafydd William, ac eraill llai eu bri. Er geni Dafydd Jones chwech neu saith mlynedd o flaen Pantycelyn, Williams a ganodd yr emyn gyntaf. Cyhoeddwyd y Rhan I. o Aleluia, emynau Pantycelyn, naw mlynedd cyn cyhoeddi cyfieithiad Dafydd Jones o Salmau Watts. Gan nad oes sicrwydd am flwyddyn geni Morgan Rhys, rhoddir y flaenoriaeth o ran amser i Dafydd Jones.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Dafydd Jones o Gaeo
ar Wicipedia





I. DAFYDD JONES, O GAIO.

Prin yw'r defnyddiau i fanteisio arnynt wrth ysgrifennu ar Dafydd Jones, o Gaio, fel ar lawer a fu o wasanaeth