Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ysgrifennai mewn iaith agos at y werin ddiddysg, am mai ei brif amcan ydoedd achub y wlad ac nid bodloni llenorion.

Bu prif emynydd Cymru yn ffyddlon i'w brofiad ei hun, a thrwy hynny canodd emynau i grefyddwyr cenedl, ac nid i eiddo enwad. Yr un yw profiad dynion wedi'u hachub ymhob cwr o'r byd, ac ymhob oes. Gwybodaeth calon dda sydd yn ei emynau, yn fwy nag eiddo deall goleuedig. Sonia lawer am benarglwyddiaeth Duw ac arfaeth, a sonia lawn cymaint am ryddid ewyllys a chyfrifoldeb dyn. Gwyddai fod y ddau yn wir, ac hwyrach y gwyddai hefyd, fel ninnau heddyw, er bod y ddau yn wir, nad oes neb a fedr eu cysoni. O'r hyn lleiaf, ni cheisiodd wneuthur hynny yn ei emynau penigamp.

Llanddowror biau Cymru y Brif Ysgol;
Ac ef ddwg goed i godi ei phulpud;
Ond Pantycelyn dodda y tragwyddol
Yn hiraeth am y nef i'w bywyd."