Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4. Prawf yr emynau adnabyddiaeth lwyr yr Awdur o'r galon ddynol yn ei gwahanol gyflyrau, a'i allu anarferol i ddadansoddi'r bywyd ysbrydol. Gan mai cyfrwng mawl ydyw emyn, nid oes ond dyn wedi'i achub a fedr ei ddefnyddio'n briodol, ac i'r dyn hwnnw y canodd Williams. Gwyddai hanes dyn wedi ei wneuthur yn greadur newydd, yn well na'r mwyafrif o grefyddwyr ei oes. Ganed ef ei hun mewn Diwygiad mawr, a gwelodd eni miloedd trwy'r un gallu. Edifeirwch, ofnau, ffydd, hyder, brwydrau, buddugoliaeth, a gorfoledd ei galon ei hun, ac eiddo pob credadun arall sydd yn ei emynau. Canodd ei brofiad ei hun, a'r profiad hwnnw ydyw eiddo pob dyn fel creadigaeth newydd ymhob oes. Ni wahaniaetha lawer yn hyn oddi wrth brif emynydd y Diwygiad ymhlith y Saeson. Canodd Charles Wesley yntau yr un profiadau cyn berffeithed â Williams.

5. Y mae'r emynau, oll ymron, yn addas i addoliad cyhoeddus. Gwnaeth ymdrech arbennig, yn ol ei dystiolaeth ei hun, i sicrhau hyn, a llwyddodd uwchlaw pawb yng Nghymru. Emynau Ysgrythyrol ac efengylaidd ydynt. Gŵr cyfarwydd â'r Ysgrythyr oedd ef, a gwelir y gwyddai trwy brofiad am y gwirioneddau a ganai.

Cyfrifydd yr emynau bob agwedd ar eisiau'r Eglwys yn ei hamgylchiadau amrywiol. Gellir datgan trwyddynt edifeirwch am bechod, tristwch oherwydd oerni a diogi ysbryd, dymuniad am faddeuant, awydd am burdeb a santeiddrwydd, gofid oherwydd pechod y byd, a gweddi am ei achub. Gall yr eglwys hefyd foli Duw am ei ras yng Nghrist, am arweiniad yr Ysbryd, ac am orfoledd mewn gorthrymderau.

At y cwbl, y mae symledd iaith, a chymariaethau wedi eu cyfaddasu i addolwyr o bob gradd. Iaith seml, gyffredin, ddealledig i'r werin ydyw, a gellir ei gyfiawnhau yn defnyddio rhai geiriau Saesneg, am eu bod yn arferedig gan y bobl gyffredin, ac yn fwy dealladwy ganddynt na'r geiriau Cymraeg cyfystyr. Prif amcan yr awdur yn ei holl lyfrau ydoedd cyfarfod amgylchiadau neilltuol ei oes.