Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y naill law ymgyfyd creigiau sy ymron yn unionsyth, ac ar y llall y mae ceudod o ryw ugain lath, a'i ochrau'n ymwasgu at ei gilydd, ac afon Tywi'n ymferwi yn y gwaelod dilewyrch. Dywed traddodiad mai ar ol teithio'r ffordd hon un tro y canodd Williams yr emyn anfarwol:

Cul yw'r llwybr i mi gerdded,
Is fy llaw mae dyfnder mawr;
Mae arnaf ofn yn fy nghalon
Rhag i'm troed i lithro lawr;
Yn Dy law y gallaf sefyll,
Yn Dy law y dof i'r lan,
Yn Dy law fyth ni ddiffygiaf,
Er nad ydwyf fi ond gwan.

2. Ceir mwy o amrywiaeth mesurau gan Williams na chan yr holl hen emynwyr gyda'i gilydd. Ychydig oedd rhif mesurau emynau trwy'r deyrnas cyn y Diwygiad Methodistaidd, a pherthyn y clod am yr ymdrech gyntaf i symud y diffyg i Charles Wesley a Williams. Canodd Dr. Watts yn Lloegr yn bennaf ar dri mesur, sef y Cyffredin, y Byr, a'r Hir, a Mesur Edmwnd Prys yng Nghymru ydoedd yr un a adnabyddir heddyw fel Mesur Salm. Anturiodd Pantycelyn ganu ar amryw fesurau newydd, a chafodd rai ohonynt gan y Saeson. Yn ei ragymadrodd i'r Mor o Wydr, dywed, "Y mae yma amryw fesurau nad oedd yn y rhai o'r blaen, ond gobeithio yr wyf nad esgeuluswch eu cael hwy allan," ac mewn hysbysiad ynglŷn â'r argraffiad cyntaf o Ffarwel Weledig, dywed ei fod yn aros "i gael amryw fesurau newyddion oddiwrth y Saeson, fel na bo'r Cymry yn fyr o'u braint hwy mewn dim i foli Duw."

3. Testun mawr a dihysbydd yr emynau ydyw Person a Gwaith y Gwaredwr. Anaml y crwydrai'r emynydd oddiwrth Grist, ac ni chrwydrai byth ymhell. Ymhyfrydai aros gyda dioddefaint a gogoniant y Cyfryngwr Mawr. Pan geisiai ganu am rywbeth arall collai'i ddawn, eithr canai'n ddihafal am iachawdwriaeth trwy'r Groes.