Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edrych am yr hindda hyfryd
'Nol cawodydd geirwon iawn,
Ac i'm hysbryd,
Trwy'r cymylau, weld y wlad.

Esgyn i ben y mynydd, a gwêl arall yn uwch, ac arall yn ymddyrchafu wedyn, a chlyw dymestl yn rhwygo'i llwybr rhyngddynt a throstynt, a theimla beth ofn; eithr ymwrola pan gofia am nerth mwy nag eiddo tymhestloedd:

Er cuwch y bryniau uchel fry,
A swn. tymestloedd tywyll, du,
A'r holl freuddwydion ofnau sy',
Anturiaf eto 'mlaen;
Mae nerth y Nefoedd fry yn fwy,
Na myrdd o'u dychryniadau hwy.

Diau iddo lawer gwaith pan yn dychwelyd o un o'i deithiau gefn gaeaf edrych o ysgwydd mynydd uchel ar y bryniau a gysgodai Bantycelyn:

Rhwng cymylau duon, tywyll,
Gwelaf draw yr hyfryd wlad, etc.

Deuthai Haf i'r wlad, canai'r adar, ymdonnai'r ŷd tan awel deg, dawnsiai'r haul ar loywder afonydd, a theimlai yntau wrth ei fodd:

Dyma'r man dymunwn drigo,
Wrth afonydd gloewon llawn,
Sydd yn llifo o ddwr y bywyd
O las fore hyd brydnawn,
Lle cawn yfed
Hyfryd gariad fyth a hedd.

Gerllaw hen amaethdy a elwir Y Fannog, fel yr elych o Bantycelyn i Langeitho a Thregaron, ceid golygfa wyllt a barai ddychryn i ŵr cydnerth. Rhed llwybr cul trwy leoedd ysgythrog a pheryglus ar fin dibyn arswydus. Ar