Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gellid yn hawdd luosogi enghreifftiau o'r diffygion uchod a brofai nad ydyw'r Perganiedydd yntau'n ddifai mwy na'i gyfoeswyr llai eu dawn a'u medr. Pan feddylir am allu anghyffredin yr awdur, ac y dealiai hanfodion emyn cystal o leiaf â neb yn ei oes, y syndod ydyw iddo gyfansoddi degau o rai gwael, ac nid iddo gyfansoddi cannoedd o rai da.

Teimlaf beth euogrwydd oherwydd aros cyhyd gyda diffygion yr emynydd mawr cysegredig hwn, a throaf yn eiddgar i sôn am ei ragoriaethau lluosog.

1. Yr oedd Pantycelyn, fel y mwyafrif o emynwyr mawr Cymru, yn hoff o Natur, a chafodd ei chyfrinach i fesur helaethach na neb yn ei oes. Diau mai ysbrydolrwydd ei feddwl a gyfrifai am i gymaint o sylweddau'r anweledig ddyfod iddo trwy Natur. Ni rydd Natur, mwy na Duw Natur, ei chyfrinachau ond i feddyliau unplyg, gostyngedig, a defosiynol. Eithr hoffa ef Natur nid yn unig oherwydd ei eni trwy ras, ond oherwydd hefyd ei eni'n fardd fel Dafydd ap Gwilym, Islwyn a Cheiriog. Yr oedd Benjamin Francis yn ddyn duwiol anarferol, ac yn emynydd da, ond gan mai bardd bach ydoedd, ychydig a geisiodd ef gan Natur. Edrydd Natur ei chyfrinachau wrth fardd da sy'n ysbrydol ei feddwl.

I esbonio llawer o emynau Williams rhaid adnabod ei wlad. Gwlad llawn o amrywiaeth ydyw. Y mae ynddi fynyddoedd mawr, ac weithiau gymylau du fel gorthrwm yn llithro'n araf o'u corun i'w godre; ambell waith ceir gwynt cryf yn rhwygo'r cymylau'n rhibiniau hirion a gwelw. Y mae ynddi gymoedd a dolydd yn llonydd a chysglyd tan haenau o niwl llwydwyn, ac awel y De yn ei thro yn ei ymlid, i'r haul gael gwenu ar y weirglodd.

Gwyddai'r bardd am ddrycin y mynyddoedd, a disgwyliai'n hiraethus am hindda:

Ar ddisgwylfa uchel gribog,
Disgwyl 'rwyf ers hir brydnawn,