Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i loywi ei eiriau a saernio'i frawddegau na chreu meddyliau ysbrydol mawr a godidog.

II. Bai amlwg arall ydyw camarfer ffigyrau.

Y mae profion pendant yng ngwaith yr emynydd mai diofalwch sy'n cyfrif am ymron holl feiau'r emynau, a phan gofir hyn anodd ydyw maddeu iddo.

Mae'n syndod i awdur o'i wybodaeth a'i ddiwylliant ef ollwng o'i law bethau mor anghyson a gwrthun â'r rhai a ganlyn:

Ti ffynnon bywyd beraidd, ddwys,
Arnat dy hun, 'rwyn rhoddi mhwys, etc.

Pwy erioed a feddyliodd am roddi'i bwys ar ffynnon?

Mewn emyn arall ceir ganddo graig ar bren:

Chwi, ffynonau bywiol, hyfryd,
Craig agorwyd ar y pren, etc.

Daearol o'r ddaear, a llawer o raib y bwystfil ynddo, ydyw'r cyntaf o'i Emynau Sacramentaidd:

Rhyfeddol yw effeithiol rin
Y moddion pwyntiaist Ti dy hun;
Dy gnawd yw bara'r bywyd pur,
O'th glwyfau tardd y ddiod glir.

Mae syched ynof, Arglwydd mawr,
Am brofi'r gloyw win i lawr;
Ac i mi gael chwanegu' ngrym,
Trwy fod dy gnawd yn ymborth im.[1]

  1. Condemniwyd yr emynydd am y defnydd a wnai o'r gair tegan yn ei emynau,
    Mi wneuthym degan gynt o'r byd,
    I gael arogli hwn o hyd, etc.
    Fy nhegan mwy fydd Iesu gwiw,
    Aroglaf Ef tra byddwyf byw, etc.
    Golygai'r gair tegan, yn Sir Gaerfyrddin, yn nyddiau'r awdur, flodeuglwm, ac i'w gyfoeswyr yn y Sir honno, yr oedd y defnydd a wnai ef ohono'n un priodol.