Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelir felly fod emynau Cymraeg a Saesneg Pantycelyn yn rhifo 990.

NODWEDDION YR EMYNAU.

Ystyrrir Williams gan lenorion a chrefyddwyr y genedl yn fardd da, ac yn frenin emynwyr. Yn y dyddiau brwd hyn a ni newydd ddathlu dau can mlwydd yr emynydd, ymuna llawer â Chynhafal i'w osod ar flaen rhestr y beirdd, ymhell uwchlaw pawb a gafodd y genedl o ddechreu'i hanes hyd heddyw." Dywed y Dr. Cynhafal mai "Williams yw y bardd mwyaf tu hwnt i bob cymhariaeth a ymddangosodd erioed ymhlith y Cymry."[1] Mor hawdd ydyw rhedeg i rysedd wrth glodfori arwyr! Pe dywedasai mai Williams ydyw bardd cysegredig mwyaf y genedl, cawsai ymron pawb i gytuno ag ef.

Gwaith diflas a braidd yn beryglus ydyw beirniadu'r Perganiedydd yn ei fan cryfať. Er hyn, gan nad ydyw'r perffeithiaf yn gwbl berffaith, ni ddylid cau llygaid rhag y diffygion. Nid ydyw ei feiau yn lluosog, eithr y maent yn ddrwg, ac wedi niweidio llawer ar ei emynau. dipyn yn esgeulus a diofal.

I. Ynglyn a'r Iaith.

Ceir yn yr emynau amryw eiriau sy'n Gymraeg da nad ydynt yn ddealledig i'r werin ond yn y Deheudir yn unig, megis clau, col, cwnnu, dere'n glau, gwirion, hur, safwyr, tyle, a salwino. Eithr nid yn erbyn y rhain y mae cŵyn, ond yn erbyn y geiriau a dorfynyglir er mwyn odl, a bastardd eiriau a ffurfir o eiriau Saesneg, megis eriad am irad, owar am oddiar, beger, criw, not, sialens, stopo, teid, seil, ple, ffar a lliaws eraill.

Y mae'n sicr ped aethai'r emynydd i drafferth i gaboli ei gyfansoddiadau y byddai llawer mwy ohonynt yn gymeradwy ac yn arferedig. Ond beth dâl siarad. Y mae holl waith y bardd yn awgrymu y costiai fwy iddo ymostwng

  1. Gweithiau Williams, Pantycelyn, tud. 36, y Dr. Cynhafal Jones.