Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyn belled ag y gwyddys rhif holl Emynau Cymraeg Pantycelyn ydyw 868.

VI. Hosannah to the Son of David, or Hymns of Praise to God, for our Glorious Redemption by Christ. Some few translated from the Welsh Hymn Book, but mostly composed on new subjects.

Emynau Saesneg yw'r rhain, a chyhoeddwyd hwy yng Nghaerodor yn 1759. Nid oes odid un o'r emynau mewn arfer gan y Saeson, er bod yr emynau gwreiddiol a gyfieithwyd yn rhai da, a'r gweddill yn ddigon didramgwydd. Eto, mae hoen ac eneiniad pethau goreu'r awdur ar goll ohonynt. Prin y gellid disgwyl hyd yn oed i Williams ganu cystal mewn iaith estron ag yn ei iaith gysefin.

VII. Gloria in Excelsis, or Hymns of Praise to God and the Lamb.

Iarlles Huntingdon, wedi gweled yr Hosannah to the Son of David, a gymhellodd yr awdur i gyfansoddi'r llyfr hwn, at wasanaeth Amddifaty Whitfield yn America. Ceir yn hwn eto amryw gyfieithiadau o emynau Cymraeg Williams. Y mae'n llyfr gwir dda, ac yn rhagori llawer ar yr Hosannah, etc., a saif rhai o'r emynau'n gyfartal â goreuon yr awdur yn y Gymraeg. Y rhai mwyaf poblogaidd yn y llyfr ydyw:

O'er those gloomy hills of darkness, etc.

Jesus! lead us with Thy power, etc.

Beneath Thy Cross, I lay me down, etc.

Guide me, O Thou great Jehovah, etc.


Am yr olaf o'r uchod dywed un awdur Seisnig, "It is, and is likely to remain, one of the great songs of the Christian pilgrim in his progress from this world into that which is to come."[1] Y mae yn y ddau lyfr 122 o emynau.

  1. The Hymn-Book of the Modern Church, A. E. Gregory, D.D. 1904.