Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond ag ysbryd hefyd ag sydd yn enyn tân, sêl, a bywyd yn y darllenydd tu hwnt (am mai llyfrau Duw ynt) i bob llyfrau yn y byd. (4) Peidio gwneud un Hymn byth nes y byddont yn teimlo eu heneidiau yn agos i'r nef, tan awelon yr Ysbryd Glân, a'r Ysbryd hwnnw a fydd barod i fendithio eu gwaith."

IV. Gloria in Excelsis, neu Hymnau o Fawl i Dduw a'r Oen.

Daeth y gwaith hwn hefyd allan fel emynau eraill yr awdur, yn llyfrynnau. Argraffwyd y Rhan gyntaf yn 1771, gan Rees Thomas, Llanymddyfri, a'r Ail Ran yn 1772, gan I. Ross, yng Nghaerfyrddin.

Rhyfedd mor hoff ydoedd yr "Hen Williams " o enwau mewn iaith estronol ar ei lyfrau Cymraeg. Wele rai ohonynt,—Pantheologia, Aurora Borealis, Templum Experientiae Apertum, Ductor Nuptiarum, Dialogus, Gloria in Excelsis. Tybed y gwyddai gwerin dywyll Cymru fwy am ieithoedd meirw na'r Gymraeg fyw. Rhy anodd heddyw chwilio allan resymau'r awdur tros yr arfer chwithig hon.

Ceir mwy o emynau goreu Williams yn y Gloria nag mewn unrhyw un o'i lyfrau. Tybir fod ei brofiad, ei grebwyll, ei farn, a'i chwaeth, ar eu goreu yn y llyfr hwn. Ni wnaeth ef, na'r un emynydd arall yn yr holl fyd, well emynau na'r rhai sydd yn hwn. Rhif emynau y Gloria ydyw 168.

V. Rhai Hymnau Newyddion ar Fesurau Newyddion, a gyfansoddwyd ar gais Cynulleidfaoedd Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin.

Hwn ydoedd y llyfr Emynau Cymraeg olaf i'r awdur ei gyhoeddi. Argraffwyd ef ar y cyntaf yn dair rhan o ddeuddeg tudalen yr un, yn 1781 a 1782, yn Aberhonddu, a'r olaf yn Nhrefeca yn 1787. Rhif emynau hwn ydyw 50.

Lloffodd Dr. Cynhafal Jones o'r gwahanol lyfrau rhyddiaith a gyhoeddwyd gan Williams, ddeg emyn nas ceir mewn unrhyw gasgliad o emynau'r awdur.