Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diwrnod y dygodd y llyfr hwn i Langeitho y torrodd y diwygiad mawr allan, a'r cyntaf wedi y rhwyg."

III. "Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig bethau; neu rai Hymnau o Fawl i Dduw a'r Oen."

Yn rhannau y cyhoeddwyd hwn hefyd ar y cyntaf. Daeth allan yn dair rhan, y ddwy gyntaf yn 1763 a 1766, gan I. Ross, Caerfyrddin, a'r drydedd yn 1769, gan Rees Thomas, Llanymddyfri. Argraffwyd y tair rhan yn un llyfr gan Ioan Daniel, Caerfyrddin. Nid oes dyddiad arno, eithr gan nad ymsefydlodd Ioan Daniel yng Nghaerfyrddin cyn 1786, y mae'n sicr i'r llyfr gael ei argraffu rhwng 1786 a 1790.[1] Cyfeiria Williams at y llyfr mewn llythyr at ei fab yn 1790. Rhif emynau'r llyfr ydyw 253.

Yn ei ragymadrodd dyry'r awdur gyfarwyddiadau i gyfansoddwyr emynau, ac yn y dyddiau hyf hyn, pan dry pob crachfardd duwiol ac annuwiol ei law at y gwaith, y mae gwir angen am danynt:

"Mi a gynghorwn yn ostyngedig i bwy bynnag eto a ddanfono hymnau i'r argraff-wasg, yn (1) I ymofyn am wir ras eu hunain; gwir adnabod Duw yn ei Fab; heb ba beth y mae yn rhyfyg ofnadwy i gyffwrdd ag Arch Duw. (2) Darllen yn Saesneg, os nad allant ddarllen mewn ieithoedd eraill, bob llyfrau o brydyddiaeth, —pa le y mae ei thegwch hi yn gorphwys, at ba ddyben y mae, a'r amryw reolau sydd yn perthyn iddi. (3) Pa un bynnag a'u bod ai peidio yn gallu cyrhaedd y peth olaf, eto darlienent drachefn a thrachefn lyfrau y Prophwydi, a'r Salmau, y Galarnad, y Caniadau, Job, a'r Datguddiad, y rhai sydd nid yn unig yn llawn o ehediadau prydyddiaeth, troell—ymadroddion, amrywioldeb, esmwythter iaith, a chyffelybiaethau bywiog,

  1. Prawf hyn nad ydyw Llyfryddiaeth y Cymry'n gywir wrth roddi 1770 fel dyddiad y llyfr.