Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rheswm am y diffygion hyn ac nid prinder gallu, oblegid ceir yn y llyfr lawer o'r emynau perffeithiaf yn yr iaith.

II. Caniadau y rhai sydd ar y Mor o Wydr, etc., i Frenin y Saint.

Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o'r llyfr hwn yn 1762. Daeth allan ar y cyntaf yn dair o rannau bychain tan yr enw Hosanna i Fab Dafydd yn 1751, 1753 a 1754. Rhaid fod y llyfr a gyhoeddwyd yn 1762 yn anarferol o gymeradwy yn yr eglwysi, oblegid dywed yr awdur iddo werthu tros ddeuddeg cant ohono mewn ychydig fisoedd. Rhagora lawer mewn naws a gorffeniad ar yr Aleluia, ac y mae ynddo 139 o emynau.

Gellir casglu oddi wrth y rhagymadrodd i'r Mor o Wydr fod yn yr eglwysi gŵyn oherwydd tôn ysbrydol uchel emynau Aleluia. Yr oedd profiad yr emynau yn gyfoethocach nag eiddo'r addolwyr. Am Emynau llyfr 1762, dywed yr awdur fod yr ysbryd ag sydd yn rhedeg trwyddynt wedi ei addasu at dymherau ysbrydol rhai ag sydd wedi cyfarfod ag amryw brofedigaethau, croesau, a chystuddiau o maes, ac aneirif gystuddiau ysbryd ac ymdrechiadau o mewn,—dynion meddaf, sydd wedi myned dan dywyllwch, culni, anghrediniaeth, a'r cyffelyb. . . . Nid oes yma ond ychydig hymnau nas gall y gwanaf yn yr Eglwys eu canu, am eu bod naill ai yn y dull o weddi am ryw rai o roddion y cyfamod newydd, neu achwyniad am bechod, lle mae llawer o'r rhai cyntaf yn ffaelu cael eu canu gan rai oherwydd y llawn sicrwydd ffydd sydd ynddynt am fywyd tragwyddol."

Dywed y Parch. Thomas Charles i amser tywyll a marwaidd ar waith yr Arglwydd ddilyn y rhwyg rhwng Howel Harris (1750) a Daniel Rowlands oherwydd syniadau dieithr y cyntaf ar berson Crist, ac mae yng nghyfnod yr adweithiad hwn y cyfansoddwyd emynau'r Mor o Wydr; a dywed ymhellach, "Y mae yn nodedig mai