Nid ydyw holl emynau Aleluia 1749 yn eiddo Williams. Yn y bumed a'r chweched Ran ceir enwau'r awduron. wrth y rhai a ganlyn:
Ymdeithydd wy'n y byd, etc.,—Dafydd Jones o Gaio. Ymdeithydd wyf fi'n awr o hyd, etc.—John Dafydd o Gaio. Fy enaid mewn gwir ofid mae, etc.Newyddion braf a ddaeth i'n bro, etc.Wel, dyma'r pererinion dewr, etc.
| Ymdeithydd wy'n y byd, etc. | Dafydd Jones o Gaio |
| Fy enaid mewn gwir ofid mae, etc | " " |
| Newyddion braf a ddaeth i'n bro, etc | " " |
| Wel, dyma'r pererinion dewr, etc. | " " |
| Arglwydd, rhyddha fy enaid caeth, etc | J Jones |
| Yn hir bum mewn trueni trist, etc | " " |
| Trwy ras 'rwyf, Arglwydd, ger dy fron, | " " |
| Moliannaf byth yr annwyl oen, etc | William Edwards |
| O Fugail doeth yr Israel hâd, etc | Morgan Dafydd o Gaio |
| Ffarwel i'r holl bleserau gwael, etc. | " " |
| Ymdeithydd wy'n y byd, etc. | " " |
| Yr Iesu'n ddi-lai, etc. | " " |
| Yr Iesu mawr, Pentywysog ne, etc | " " |
| Pererin wyf tua Salem ber, etc. | " " |
| Ffarwel i bechod a phob chwant, etc. | " " |
| Ffarwel bob cnawdol chwant, etc. | " " |
| O braf yw meddwl am y fraint, etc. | " " |
Pan gyhoeddodd Williams y Rhannau'n un llyfr yn 1749, ac eilwaith yn 1758, caed yr holl emynau hyn heb enwau'r awduron wrthynt, a chyhoeddwyd hwy felly ymhob argraffiad dilynol hyd eiddo Cynhafal, ac yn gyffredin priodolid hwy i Pantycelyn. Pethau gwael ydyw llawer o emynau Williams, yn yr Aleluia. Y mae amryw'n glogyrnaidd ac anfarddonol, ac mewn gwisg dipyn yn garpiog. Hawdd gweled mai diofalwch yr awdur ydyw'r