Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

felly, ac wedi i bob un adrodd ei waith i Harris ddywedyd, "Williams biau'r emyn." Gwelwyd fod y ddawn i emynu yn eiddo Williams i fesur mwy na neb arall, ac iddo ef yr ymddiriedwyd y gwaith.

Pan dano'r boreu hwnnw llamai'r llawr,
Ychydig a feddyliai Harris fawr
Wrth roi y dorch i Williams Pantycelyn,
Y gwaeddai Cymru byth. "Wil biau'r emyn." [1]


Dichon nad ydyw helynt "Williams biau'r Emyn" ond traddodiad noeth, fel amryw bethau a gredir heddyw am yr emynydd, eithr y mae'n ddiddorol tros ben, ac yn ddigon naturiol i fod yn wir.

Cyhoeddodd y Perganiedydd ei emynau mewn amryw lyfrynnau â'u pris yng nghyrraedd y tlotaf o'r werin. Yna, ymhen ychydig, argraffai'r llyfrynnau'n un llyfr o faint a phris rhesymol. Caed amryw argraffiadau o'r llyfrau hyn yn ystod bywyd yr awdur. Cyhoeddwyd ei waith prydyddol tan olygiaeth ei fab, y Parch. John Williams, yn 1811-12. Ni chaed argraffiad arall hyd 1867, pryd y daeth allan Holl Weithiau Williams gan y Parch. Kilsby Jones. Yr argraffiad perffeithiaf yn fy marn i a feddwn hyd yma ydyw dwy gyfrol hylaw y Parch. Cynhafal Jones, D.D. Argraffwyd y gyntaf o'r ddwy gyfrol gan P. M. Evans, Treffynnon, yn 1887, a'r ail gan W. Jones, yng Nghasnewydd ar Wysg, yn 1891. Yn argraffiadau 1811, 1887, ac 1891, ceir y llyfrau yn y drefn y'u cyhoeddwyd gan yr awdur:

I. Aleluia, neu Gasgliad o Hymnau, ar amryw ystyriaethau.

Cyhoeddwyd hwn ar y cyntaf yn chwech o rannau bychain. Caed y Rhan I. ddechreu 1744, ac ail-argraffiad ohoni ddiwedd yr un flwyddyn; Rhan II. yn 1745; Rhan III. yn 1745; Rhan IV. yn 1746; Rhan V. yn 1747; a Rhan VI. yn 1747. Yn y flwyddyn 1749 cyhoeddwyd y chwe Rhan yn un llyfr, a galwyd ef yn Ail Argraffiad.

  1. Williams Pantycelyn, Ben Bowen.