Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

barddoniaeth. O safle barddoniaeth nid oes fawr o werth ynddo, oherwydd fod y wisg mor garpiog a'r cynnwys yn rhyddiaith. Amcan mawr yr awdur, fel yr hen Ficer o'i flaen, ydoedd dysgu gwirioneddau'r Efengyl i'r werin anwybodus. Nid ei uchelgais ydoedd ei anfarwoli ei hun fel bardd, ond anfarwoli dynion trwy eu hachub. Canu ei wybodaeth ysgrythyrol a'i syniadau diwinyddol a wnaeth Williams yn Golwg ar Deyrnas Crist. Nid oes dim yn galw am fath yn y byd ar drais i wneuthur yr awdur yn fwy na phawb ym mhopeth. Yr oedd yn bregethwr mawr, yn ddiwinydd mawr, ac yn brif emynydd Cymru, a dyna ddigon i unrhyw awdur meidrol. Y mae'n syn fel y trodd y llanw ym meirniadaeth Hiraethog. Cyn cyhoeddi'i draethawd ef nid ystyrrid William Williams yn fardd o gwbl, eithr er y pryd hwnnw, clodforir ef gan rai fel prif fardd y genedl.

YR EMYNAU.

Cynhaliwyd Cwrdd Misol neu Sasiwn yn nhŷ Jethro Dafydd Ivan, o'r Rhiwiau, ym mhlwyf Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin, naill ai yn y flwyddyn 1743 neu 1744,<ref>Ni wyddis yn sicr na hanes na dyddiad y Cwrdd yn nhŷ Jethro Dafydd. Gwel Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, Cyf. III., Rhif 2.<ref> a dywed y Parch. Thomas Charles, yn ei gofiant i Williams, mai yn y cyfarfod hwn y caed prawf mai ef ydoedd Emynydd y Diwygiad. Y mae'n debig mai un o'r materion yr ymdriniwyd ag ef yng Nghwrdd tŷ Jethro Dafydd ydoedd yr angen am emynau cyfaddas i'w canu yn yr addoliad cyhoeddus. Nid oedd ond ychydig o emynau, ar wahan i Salmau Cân Edmwnd Prys, at wasanaeth addolwyr ar gychwyn Methodistiaeth, ac er gwyched Salmau Prys, nid oedd ond ychydig ohonynt yn gymwys fel cyfryngau mawl plant y Diwygiad â'u profiadau dwfn a gwresog. Dywedir i Howel Harris annog y sawl oedd. yn nhŷ Jethro Dafydd i gyfansoddi emyn erbyn y Cwrdd Misol nesaf, i weled a oedd bardd yn eu plith. Gwnaed