Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystyriaeth y gwallau ieithyddol ni phetruswn honni ei chystadledd â phrif orchestion awenyddiaeth anwyfoledig yr oesoedd." Cymhara hi â Choll Gwynfa Milton, a dywed fod y ddwy gân yn gwahaniaethu yn "ansoddion gwahaniaethol y ddwy oes, yn gystal a'r ddau fardd," eithr ni ddysg y gwahaniaethant—mewn gwerth barddonol.[1] Yn wir, gedy ei eiriau yr argraff ar feddwl dyn yr ystyriai ef y ddwy gân yn gyfwerth. Cyn belled ag yr â'i feirniadaeth dysg fod rhyw wahaniaeth rhwng nodweddion y ddwy oes y'u cyfansoddwyd ynddynt, a rhwng nodweddion athrylith y ddau awdur, a dyna'r prif wahaniaeth, onid yr unig un. Tybed nad oes lle i ofni y byddai dychymyg Hiraethog fawr ar brydiau yn creu gwerth lle nad ydoedd, ac yn methu â'i weled lle y byddai? Prin y mae'n ddiogel dilyn Hiraethog bob amser yn ei draethawd ar athrylith Williams, oblegid methiant anarferol ydyw ei feirniadaeth ar Dafydd ap Gwilym. Dysg prif lenorion a beirniaid Cymru a gwledydd eraill fod Dafydd ap Gwilym y bardd mwyaf a gafodd ein cenedl ni hyd yr oes hon, ac â rhai cyn belled â'i restru gyda phrif feirdd y byd. Eithr dywed Hiraethog mai darostwng a halogi awenyddiaeth ei wlad a wnaeth, "a dwyn mawr ddirywiad a llygredigaeth i'w hysbryd a'i nodwedd foesol." Fe gydnebydd gryfder a hoenusrwydd ei ddychymyg, eithr dychymyg wammal gellweirus ydoedd." Cymhara ap Gwilym â Huw Llwyd, a dywed fod yn nau gywydd Huw i'r Llwynog "fwy o wir farddoniaeth nag a gynwysai deng mil gywyddau o fath rhai D. ap Gwilym." Gofyn ymhellach, "Pa beth a ganodd yn deilwng o'i gadw ar gof ac ar gael."[2] Rhag ofn i Hiraethog gyfeiliorni cymaint mewn barn ar waith Williams ag a wnaeth ar eiddo D. ap Gwilym, doeth fyddai ei ddilyn â llygaid agored.

Cyn belled ag yr â hyd y mae Golwg ar Deyrnas Crist yn waith mawr iawn; eithr diwinyddiaeth ydyw ac nid

  1. Holl Weithiau Williams, Kilsby Jones.
  2. Beirdd a Barddoniaeth—Gweithiau Barddonol Gwilym Hiraethog.