Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac wrth ddarllen a beirniadu ei waith y mae cofio ei brif amcan yn anhepgor i wneud cyfiawnder ag ef. Y mae yn y gyntaf o'r ddwy gân gynllun eang a lenwir â gwybodaeth efengylaidd a buddiol iawn. Rhennir hi yn chwe phennod: "Y Deyrnas yn cael ei rhoddi i Grist, neu Crist yn bob peth yn yr Arfaeth—Crist yn gosod i fyny ei Deyrnas, neu yn bob peth yn y Greadigaeth—Crist yn achub ei Deyrnas yn y gwrthryfel cyffredin, neu Crist yn bob peth yn Addewid Eden—Crist yn llywodraethu ei Deyrnas, neu Crist yn bob peth mewn Rhagluniaeth—Llyfr Statute Teyrnas Crist, neu Crist yn bob peth yn y Beibl—Teyrnas neilltuol Crist, neu Crist yn bob peth yn iachawdwriaeth y Saint."

Ceir ugain pennod ar Fywyd a Marwolaeth Theomemphus yn portreadu ei annuwioldeb cyn ei gyfnewid, ei argyhoeddiad o bechod trwy bregethu Boanerges, ei demtasiynau, ei ofnau, ei beryglon oddi wrth athrawon gau, ei gadernid yn y ffydd, a'i farw. Dengys yr awdur allu anarferol i ddadansoddi teimladau, anawsterau, a buddugoliaethau'r bywyd ysbrydol. Diau y cyfyd ei fedr yn y gorchwyl hwn o'i brofiad personol. Nid cynnyrch awen bardd ydyw'r gân, eithr cynnyrch profiad dyn gwir ysbrydol. Y mae'r gwaith ar yr un cynllun â Thaith y Pererin Bunyan, ac y mae llawer o debygrwydd rhyngddynt, ond y mae'n waith newydd a gwreiddiol er hynny. Dywed yr awdur yn ei ragymadrodd, " Fe redodd y Llyfr hwn o'm hysbryd fel dwfr o ffynnon, neu wê'r pryf copyn o'i fol ei hun. Y mae yn ddarn o waith newydd, nad oes un platform iddo yn Saesneg, Cymraeg, nac yn Lladin, a'r wn i." O'r ddwy gân, credaf mai Theomemphus ydyw'r werthfawrocaf o lawer. Gall dyn crefyddol ddarllen hon â blas ac er budd heddyw, eithr gwaith caled a blin i fardd neu Gristion yn yr oes hon a fyddai darllen Golwg ar Deyrnas Crist.

Bodlona cofianwyr Williams ar farn Hiraethog am dano fel bardd. Dywed ef am Golwg ar Deyrnas Crist ei bod yn Arwr—gan benigamp,"—"A gadael allan o