Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyfartal onid yn rhagori ar bawb o arweinwyr y Diwygiad. Pregethodd â llwyddiant mawr, a chanodd gannoedd o emynau eneiniedig i fod yn gyfryngau mawl saint Cymru hyd ddiwedd amser.

EI FARDDONIAETH AR WAHAN I'R EMYNAU.

Ni chyfyngodd Williams ei hun fel awdur i farddoniaeth, eithr gwnaeth enw iddo'i hun a lles i filoedd trwy lenyddiaeth rydd. Rhwng blynyddoedd 1759 a 1791 cyhoeddodd bymtheg o lyfrau mewn rhyddiaith. Yr oedd tri o'r rhain yn gyfieithiadau, a'r gweddill yn eiddo gwreiddiol. Y mae un ohonynt, sef Pantheologia, neu Hanes holl grefyddau y Byd, yn waith mawr a gostiodd yn ddrud iddo mewn darllen a meddwl. Ysgrifennodd yr awdur mewn iaith seml ac arddull lled ddidramgwydd, fel y gallai'r diddysg a'r bach ei amgyffredion ddeall, a'i brif amcan ydoedd llesoli'r Cymry anwybodus ac annuwiol. Bu'r traethodau'n enwog a buddiol yn yr oes y'u cyhoeddwyd ynddi, eithr erbyn hyn nid ydynt yn ddiddorol a gwerthfawr onid i'r hynafiaethydd a'r llyfrbryf cywrain.

Cyfansoddodd y bardd amryw ganeuon, a rhyw bymtheg marwnad ar hugain ar ol enwogion megis Howel Harris, Daniel Rowlands, Griffith Jones, Llanddowror, etc., eithr ei orchestion prydyddol ar wahan i'w emynau ydyw ei bryddestau hirfaith, sef Golwg ar Deyrnas Crist a Bywyd a Marwolaeth Theomemphus. Y mae yn y gyntaf 1367 o benillion pedair llinell yn dair sill ar ddeg yr un, ac yn yr ail 1741 o benillion ar yr un mesur â'r gyntaf. Dywed Williams yn ei ragymadrodd i'r argraffiad cyntaf o Golwg ar Deyrnas Crist mai yr hyn a'i cymhellodd i gyfansoddi "am Helaethrwydd Teyrnas a godidowgrwydd Person y Messiah" ydoedd "awydd am ddeffroi'i enaid ei hun i garu'r Iesu'n well, ynghyda cheisio argyhoeddi rhai o'u diystyrwch cyhoedd o Grist, ac eraill o'u difrawder ewyllysgar i bwyso arno am gyfiawnhad enaid." Dyma brif amcan yr awdur yn y cwbl o'i waith—ei draethawd, a'i bryddest, yn gystal a'i bregeth a'i emyn;