Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drain a mieri'r diffeithwch, fel y cawsai dylanwadau nerthol y byd a ddaw lifo i fywyd y genedl. Meiddiodd Howel Harris dorri tros furiau uchel a thrwchus yr hen Eglwys, a cherdded i'r prif—ffyrdd a'r caeau heb ofni na gwg na sen yr awdurdodau goruchel, a defnyddiodd Duw Daniel Rowlands a William Williams i ddiogelu a chyfeirio dylanwadau'r mudiad newydd.

SAFLE WILLIAMS FEL PREGETHWR.

Ystyrrir Williams gan ei gofiannwyr yn gystal trefnydd â'r goreu o'r diwygwyr, ac yn rhagorach diwinydd na'r un ohonynt. Ef ydoedd prif ddiwinydd y Diwygiad, ac erbyn hyn cydnabyddir yn gyffredinol mai ef ydoedd ac ydyw y bardd cysegredig mwyaf a gafodd y genedl. Eithr anaml y cyfeirir ato fel pregethwr. Y mae hyn, yn gyntaf, oherwydd y cydoesai â rhai o'r pregethwyr hynotaf yn hanes y ddaear, megis John Wesley, George Whitfield, Daniel Rowlands, a Howel Harris. Nid goleu Williams oedd yn fach, eithr eiddo'r rhain oedd yn eithriadol fawr. Yn ail, cuddid y pregethwr mawr yn yr Emynydd mwy. Yn ol tystiolaeth Charles o'r Bala, a gafodd lawer cyfle i'w glywed, yr oedd Williams yn bregethwr mawr ymhlith cewri. Dyma dystiolaeth Mr. Charles,"Yr oedd ei ddoniau areithyddol yn helaeth, ei bregethu yn efengylaidd, yn brofiadol, ac yn felys—yn chwilio i mewn i au athrawiaethau, a gau brofiadau, ac yn gwahaniaethu yn fanwl rhwng gau a gwir ysbryd. Yr oedd ei ddychymyg yn gry, ei lygaid yn graff a threiddgar, a llawer o ddylanwadau nefol ar ei ysbryd wrth weinidogaethu yn gyhoeddus, ac yn ei ymddiddanion â dynion. am fater eu heneidiau yn y cymdeithasau neillduol."

Er cymaint a wnaeth Harris a Rowlands i'r Diwygiad, gwnaeth Williams fwy. Nid oeddynt hwy ddim ond pregethwyr; prin gwerth son am yr hyn a ysgrifennwyd ganddynt. Eithr ysgrifennodd Williams gyfrolau mewn rhyddiaith a barddoniaeth i ddysgu hanes a diwinyddiaeth i'r eglwysi. Profodd dro ar ol tro fod ei fedr fel trefnydd