Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lycaf y Diwygiad, Williams, Pantycelyn, oedd ei ddyn mwyaf ar lawer cyfrif.

Yr oedd crefydd yng Nghymru mewn cyflwr isel a drwg ar gychwyn y Diwygiad, a gwaethygu'n araf a wnai'r Eglwysi mewn cyflwr ac o ran rhif eu haelodau. Y mae'n wir nad oedd pawb mewn trymgwsg fel yr haera Williams yn un o'i farwnadau, oblegid yr oedd amryw ddynion fel Griffith Jones, Edmwnd Jones, ac Isaac Price, ar y muriau. Eto, cysglyd a gwan oedd Seion.

Ofnaf bod perigl i'r anghyfarwydd yn hanes crefydd Cymru dybio na fu erioed na haul na hindda yn y wlad cyn dyddiau'r Diwygiad Methodistaidd, a bod y cwbl o'n dyled i Harris a Rowlands a Williams. Cyfeiliornad gwrthun a fuasai tybio felly, oblegid bu i Gymru'n fore gewri ysbrydol, o ddoniau anarferol,—dynion a'u meddyliau wedi'u trwytho â dysg oreu prif ysgolion y deyrnas, megis Edmwnd Prys, Y Dr. Wm. Morgan, William Salsbri, Y Dr. Richard Davies, Y Ficer Pritchard, Y Dr. Davies o Fallwyd, Walter Cradoc, Vavasor Powell, Hugh Owen, Bronclydwr, a llawer eraill. Dynion o alluoedd anghyffredin oedd y rhain, a phob un wedi ei addysgu naill ai yng Nghaergrawnt neu Rhydychen. Dyma ddiwygwyr mawr cyntaf Cymru, a gweddus cofio mai cewri oeddynt mewn meddwl a diwylliant a chymeriad; a pha cyn lleied bynnag oedd ffrwyth uniongyrch eu hymdrechion, eu llafur hwy a wnaeth y Diwygiad Methodistaidd yn bosibl. Er hyn i gyd, a chymryd gwedd gyffredinol ar grefydd y wlad y mae'n rhaid addef bod pethau mewn cyflwr gresynus. Hwyrach na fu i ni erioed hanesydd mwy cymedrol a phrinnach ei ddawn i feio na'r Parch. Josua Thomas, eithr gorfodir ef i ddywedyd, "Hyn sydd sicr, anwybodaeth ac anfoesoldeb mawr oedd ymhlith y cyffredin bobl"[1]

Rhagflaenor mawr y Diwygiad ydoedd y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Ef a fu'n naddu llwybr yn y graig, yn darostwng bryniau ac yn codi'r pantiau, ac yn medi

  1. Hanes y Bedyddwyr, Joshua Thomas.