Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ym Mhantycelyn, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfairar-y-bryn, gerllaw Llanymddyfri. Gosododd edmygwyr yr emynydd ar ei fedd gofadail o ithfaen coch ac arno yn Saesneg y geiriau a ganlyn:[1]

"Sacred to the memory of Rev. William Williams, Pantycelyn, in this Parish, Author of several works in prose and verse. He waits here, the coming of the morning star, which shall usher in the glories of the first resurrection, when at the sound of the Archangel's trumpet the sleeping dust shall be reanimated, and death for ever shall be swallowed up in victory.

Born 1717; Died Jan. 11, 1791. Aged 74 years.

Heb saeth, heb fraw, heb ofn, ac heb boen,
Mae'n canu o flaen yr orsedd ogoniant Duw a'r Oen;
Yn nghanol myrdd myrddiynau, yn canu oll heb drai,
Yr anthem ydyw cariad, a chariad i barhau."



LLE WILLIAMS YN Y DIWYGIAD METHODISTAIDD.

Megis yr Wyddfa ymhlith mynyddoedd Cymru, ac fel Pantycelyn ymhlith Emynwyr Cymru, felly y Diwygiad Methodistaidd ymhlith Diwygiadau Cymru. Mudiad mawr o'r dwyfol a'i egni'n ddiatal ydyw, ac yn goroesi pob diwygiad arall ym mywyd y genedl. Gesyd Duw yn ddieithriad ddynion o bersonoliaeth anghyffredin i gychwyn pob mudiad sydd i fyw yn hir,—dynion a fedr edrych tros fynyddoedd cenedlaethau, a digon o loywder a threiddgarwch yn eu llygaid i weled ymlaen am ganrifoedd. Dynion felly oedd Wesley a Whitfield, Harris a Rowlands a William Williams. Arweinwyr amlwg a phoblogaidd y Diwygiad yng Nghymru oedd Howel Harris a Daniel Rowlands; eithr yr oedd i Williams yntau ran bwysig yn y symudiad. Pwy bynnag oedd dyn am-

  1. Y Parch. Thomas Levi, Aberystwyth, a fu'n offeryn i gychwyn mudiad y Gofadail.