Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganol nos yn ei ddull swta, "Mali, Mali, cannwyll, cannwyll! Rhaid i mi fynd i sgrifennu." Dywedir i'r ysbrydiaeth hon ddisgyn arno drymder nos un tro mewn lle o'r enw Maes—cefn—y—ffordd, gerllaw Llangamarch; eithr er gwaeddi'n hir a chroch am gannwyll, methodd â dihuno'r forwyn. Wrth gwrs, byddai'n berigl bywyd iddo ef yn y tywyllwch mud ddisgyn o'i wely i ganol bwganod gwancus. Bore trannoeth canodd y bardd i'r forwyn fel hyn:

Yn awr 'rwy'n gorfod credu
'Tai yma glychau'r llan,
A rhod y felin bapur,
A gyrdd y felin ban,
A'r crochan mawr a'r badell
Yn twmblo o gylch y tŷ,
A'r gwely yn torri tani,
Mai cysgu wnelai hi.

Yn y llythyr a ysgrifennodd at Charles o'r Bala, tua therfyn ei oes, rhydd Williams syniad am faint ei lafur cyhoeddus. "Y mae fy nyddiau yn tynnu tua'r terfyn, mae fy ngyrfa ymron wedi ei rhedeg. Cefais oes faith; yr wyf yn awr yn 73 mlwydd oed. Yr wyf wedi bod yn. pregethu am y 43 mlynedd diweddaf, ac wedi teithio bob wythnos at ei gilydd rhwng deugain a deg a deugain o filltiroedd tros yr holl amser hynny. Y Gwanwyn diweddaf, mi a deithiais bedair neu bum waith trwy siroedd Deheudir Cymru; pob taith yn para pythefnos, ac yn 200 milltir o hyd." Nid oedd y teithio a'r pregethu onid rhan o waith yr emynydd. Meddylier am y llyfrau mewn rhyddiaith a gyfansoddodd ac a gyfieithodd, ac am ei bryddestau hirion a'i gannoedd emynau! Ychwaneger at y cwbl ei ofal tros fferm Pantycelyn, a gwelir iddo weithio hyd at orlafur trwy gydol ei oes faith.

Daeth terfyn rhawd yr "Hen Williams" yntau, a diwedd tangnefeddus a fu. Hunodd yn ddigŵyn a bodlon Ionawr 11, 1791. Bu farw yn 73 (74 ) mlwydd oed