Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Poenid ef am flynyddoedd gan y graeandwst a'r pruddglwyf, ac aeth ei iau cyn wanned onid ofnai yn ei hen ddyddiau groesi trothwy'i dŷ wedi nos heb Mrs. Williams i gadw drygddyn a bwgan draw. Cymaint oedd ei bruddglwyf ar brydiau nes anghofio ohono'i hun a'i amgylchiadau, a llithrai i freuddwydio ar ddihun. Edrydd y Parch. Owen Thomas, D.D., hanes a glywodd pan yn llanc amdano yng nghapel Uchaf Clynnog, pan deithiai trwy Arfon. Gorffwysai'r pruddglwyf yn drwm ar yr hen brydydd, ac fel pe rhwng cwsg ag effro llithrodd ei feddwl at Mali a Jack ei fab, a phan gododd yn y pulpud, rhoddodd i'w ganu y pennill hwn:

Hed y gwcw, hed yn fuan,
Hed aderyn glas ei liw,
Hed oddiyma i Bantycelyn,
Dwed wrth Mali mod i'n fyw;
Hed oddiyno i Lanfair-Muallt,
Dwed wrth Jack am gadw'i le;
Ac os na chaf ei weled yma,
Caf ei weled yn y ne'.

Galwodd dechreuwr y canu sylw'r pregethwr at anaddaster y geiriau i'r achlysur. Daeth yntau ato'i hun ar unwaith. Cofiodd mai iachawdwriaeth y Groes ydoedd baich ei genadwri ar y pryd, ac ar darawiad rhoddodd i'w ganu:

Mae'r iachawdwriaeth fel y môr
Yn chwyddo byth i'r lan;
Mae ynddi ddigon, digon byth,
I'r truan ac i'r gwan.

Ymddengys y cynhyrfid ei awen weithiau gan ysbrydiaeth sydyn ac annisgwyliadwy, a'r adegau hynny mynnai'r prydydd byrbwyll a phendant roddi ei weledigaethau ar bapur yn ddiymdroi. Weithiau aflonyddid ar hun felys Mali wedi llafur a gofalon y dydd, gan waeddi'r emynydd