Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lleoedd y tuallan i'r plwyfydd a berthynai iddo fel curad, a'r afreolaeth hwn a gondemnir ganddo "yn ei feddwl yn ol llaw dros ei holl fywyd," ac nid ei waith yn ymuno â'r Eglwys ar y cyntaf a goddef ei urddo'n ddiacon. Diau mai'r hyn a barai iddo anghymeradwyo ei afreolaeth fel curad a barai hefyd iddo ddwyn ei feibion i fyny'n offeiriaid, sef ei anwyldeb at yr hen Eglwys, a'r anfantais a gawsai fel pregethwr oherwydd nad ydoedd yn ordeiniedig.

GORLAFUR WILLIAMS.

Dyno gorff cryf ac iach ydoedd William Williams, ond ymddengys iddo ddibrisio ac afradu ei nerth. Trwy brynu'r amser, a'i brynu'n ddrud iawn, y llwyddodd i roddi cymaint i'w genedl mewn llafur llenyddol a chyhoeddus. Dywedir ei fod yn naturiol, gorff a meddwl, yn fywiog a gweithgar, ac yn elyn diogi a difaterwch ym mhawb. Amaethai fferm Pantycelyn, a chyfansoddai lyfrau lawer, a gwnai'r ddau cyn ragored a'i gilydd. Yr oedd yn gynnil heb fod yn gybyddlyd. Meddai ddawn i gasglu arian a doethineb i'w gwario. Talai'r fferm yn dda am ei ofal trosti, a bernir i bob llyfr a gyhoeddodd ddwyn elw iddo. I ychydig y mae cyhoeddi llyfrau yn fudd ariannol hyd yn oed yn yr oes ddarllengar hon yng Nghymru, eithr gwnai'r emynydd elw drwy gyhoeddi llyfrau mewn oes dywyll a phrin ei darllenwyr. Byddai ganddo bersonau yma a thraw trwy'r wlad yn casglu enwau derbynwyr, ac yn diogelu rhag—daliadau, sef cyfran o bris y llyfr, a'r gweddill o'i bris wrth ei dderbyn. Tybir y derbyniai oddeutu £200 y flwyddyn o bob ffynhonnell, a chan y dywedir fod chwech swllt y pryd hwnnw yn gyfartal i bunt yn bresennol, yr oedd ei gyllid blynyddol yn gyfartal i £666 o'n harian ni heddyw. Ni wyddys delerau gwasanaeth Williams yn yr Eglwysi, ond anodd fuasai i ddyn mor ysbrydol dderbyn tâl gan dlodion ag yntau mor gyfoethog.

Trwy lafur dibaid yn myfyrio, ysgrifennu, teithio, pregethu, a chadw cyrddau neilltuol, amharodd ei iechyd.