Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn achlysur difaterwch mwy, a ffurfioldeb oerach, ac iddynt edrych ar y Methodistiaid fel pobl hanner gwallgof, gan ymdrechu bod mor annhebig iddynt ag y medrent. Er yn awyddus am well emynau nag eiddo Edmwnd Prys, rhwystrwyd hwy i ddefnyddio eiddo Williams gan gulni plaid. Yn ail, rhoddodd yr hen Ymneilltuwyr y flaenoriaeth i Salmau Watts am eu bod yn fwy athrawiaethol ac yn llai profiadol nag eiddo Williams.[1] Diau fod yr eglwysi yn lled ddeallus ac yn fawr eu sêl dros athrawiaeth, eithr yn eu deall yn fwy nag yn eu profiad yr oedd eu crefydd, a phrofiad eneidiau wedi'u cynhyrfu a'u tanio gan nerthoedd y Diwygiad a geir yn emynau Pantycelyn.

SALMAU WATTS A SALMAU PRYS.

Dywed gwŷr o farn y rhagora cyfieithiad Edmwnd Prys ar eiddo Dafydd Jones o ran teilyngdod llenyddol; ac fel rheswm dros y rhagoriaeth atgofir ni o ddysg, diwylliant, a gwybodaeth gyffredinol Prys, ac o fychander dysg a diffyg hamdden Dafydd Jones. Nid oes ddadl ynghylch y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfieithydd o ran gallu a dysg a chyfleusterau; eithr prin y cyfiawnha hyn y casgliad fod gwahaniaeth rhwng gwerth y ddau gyfieithiad. Wrth eu cymharu dylid cadw mewn cof, yn gyntaf, fod gwahaniaeth mawr rhwng amcan y ddau gyfieithydd. Amcanai Prys gyfieithu o'r Hebraeg mor llythrennol ag y medrai,—cadw'n gaeth at y synnwyr a'r llythyren, a llwyddodd. Aiff rhai llenorion Cymreig hyddysg mewn ieithoedd cyn belled a dysgu bod ystyr yr iaith wreiddiol yn llawnach a chywirach ym mesur cerdd Prys nag hyd yn oed yng nghyfieithiad godidog y Doctoriaid Morgan a Parry. O'r tu arall, amcan Watts a Dafydd Jones yn y cyfieithiad ydoedd cyfaddasu meddyliau ac ymadroddion y Salmydd Hebreig at feddyliau a phrofiadau crefyddwyr eu hoes hwy. Yn ei Ragymadrodd i'w

  1. Yr Adolygydd, 1852.