gyfieithiad dywed Watts,—" A pha fai a fydd o helaethu ychydig ar y testunau mwyaf defnyddiol yn null ymadrodd yr Efengyl, lle byddo'r Salm yn rhoddi achlysur, gan fod holl grefydd yr Iddewon wedi ei barnu'n fynych yn y Testament Newydd fel peth diffygiol ac amherffaith?" A dywed Dafydd Jones yntau yn ei ragymadrodd,—"Y mae yn anhawdd i neb dynion gymhwyso y cyfryw ymadroddion yn briodol at eu cyflyrau eu hunain, oddieithr cael iddynt droad neu gyfaddasiad Efengylaidd, i fod yn fwy cytunol a chyfryngau gras, a chyflyrau a phrofiadau pobl Dduw dan y Testament Newydd." Yn ail, dylid cofio fod cyfieithiad Prys o'r Hebraeg ac eiddo Dafydd Jones o'r Saesneg. Amcanai Prys gyfieithu Hebraeg y Salmydd yn fanwl a chywir, ac amcanai Dafydd Jones gyfieithu Saesneg y Dr. Watts yn fanwl a chywir, a llwyddodd y ddau i fesur lled gyfartal. Nid ydyw'n debig fod gwybodaeth Edmwnd Prys o'r Hebraeg yn berffeithiach nag eiddo Dafydd Jones o'r Saesneg, ac wrth gymharu y mae'n anodd gweled rhagoriaeth y naill ar y llall. Llwyddodd Dafydd Jones i gyfleu syniadau Salmau Watts yn gywir, mewn iaith lân ac eglur, a phriod-ddull hollol Gymreig. Nid oes fwy na thri yn adnabyddus ac enwog fel cyfieithwyr yr holl Salmau i gân Gymreig. Rhoddir yma y Salm Gyntaf o eiddo'r tri fel y gellir eu cymharu:
Gwynfyd o'i febyd gwinfaeth, |