Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bydd ail i bren a blennir
Yn nglan afon dirion dir,
A ddwg ffrwyth ddigyffro hawl
Is irwydd yn amserol,
Ag ar y brig deg ir bren
Ni ddielwa un ddeilen;
Ag oll a wnel gwellha'n wir,
A'i law ddyn a lwyddiannir.
Annuwiol fraint ddynol fry
O fall-haint ni bydd felly;
Hwn o fab hoewan a fydd
Fal manus ar fol mynydd,
O'i flaen y gwynt flina' gwaeth,
Chwith ammod, a'i chwyth ymaith;
Ni welir annuwiolion
Ofer yn hir i'r farn hon;
A gwn na saif, gwan o said,
Deirawr y pechaduriaid,
Drwg fawl oll, i'r dyrfa lawn
O wŷr cofus—rai cyfiawn.
Duw a edwyn ffordd dyn da,
Dinystrir enwir yna.
Gwilym Ganoldref, 1595.

Y sawl ni rodia, dedwydd yw,
Yn ol drwg ystryw gyngor:
Ni saif ar ffordd troseddwyr ffol,
Nid eiste'n stol y gwatwor.

Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd
Ar ddeddf yr Arglwydd uchod;
Ac ar ei ddeddf rhydd, ddydd a nos,
Yn ddiddos ei fyfyrdod.

Ef fydd fel pren plan ar lan dol,
Dwg ffrwyth amserol arno;
Ni chrina'i ddalen, a'i holl waith
A lwydda'n berffaith iddo.