Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid felly y bydd drwg di-ras,
Ond fel yr us ar gorwynt;
Yr hwn o'r tir a'i chwyth, a'i chwal,
Anwadal fydd ei helynt.

Am hyn y drwg ni saif mewn barn
O flaen y Cadarn uniawn;
Na'r pechaduriaid mawr eu bâr
Ynghynnulleidfa'r uniawn.

Canys yr Arglwydd Dduw, fel hyn,
A edwyn ffyrdd gwirioniaid;
Ac ef ni âd byth i barhâu
Mo lwybrau pechaduriaid.
Edmund Prys, 1621.

Gwyn fyd y dyn ochelo'r fan
Sydd hoff gan annuwiolion;
Ffieiddio mae eu ffyrdd di râs
A'u gwawdiaeth gâs o'i galon.

Ond yng nghyfreithiau'r Arglwydd Ner,
Ei hoffter ef fydd benna;
Darllen neu wrendy'r Gair y dydd,
A'r nos yn brudd myfyria.

Fel pren rhywiogaidd peraidd plan,
A dyf ar lan dw'r bywiol;
Rhag gwynt a stormydd diogel fydd,
Mewn cyflwr dedwydd hollol.

Fel dalen werdd ei broffes wiw,
Fydd dêg ei lliw a'i llewyrch;
A ffrwythau gras, un-wedd a grawn,
Fydd arno'n llawn o gynnyrch.

Nid felly bydd y rhai di-râs,
Annuwiol câs eu helynt!
Eu gobaith, chwythir ffwrdd ar frys,
Fel llwch neu us gan gorwynt.