Ni saif yr enwir yn y farn |
CYFIEITHIADAU'R EMYNYDD.
Cyhoeddwyd yn 1775 Hymnau a Chaniadau Ysbrydol y Dr. Watts, wedi'u cyfieithu gan Dafydd Jones. Y mae yn y llyfr 341 o emynau, a'r cwbl ac eithrio deg emyn gan y Dr. Doddridge, yn eiddo'r Dr. Watts. Nid oes eisiau sôn am werth yr emynau, oblegid rhoddir i Watts gan y Saeson safle gyffelyb i'r un a roddir gan y Cymry i Williams. Cyll amryw o'r emynau lawer o ynni ac eneiniad wrth eu troi i'r Gymraeg, a dyna'r ffaith ynglŷn â chyfieithu unrhyw waith. Prif ddiffyg Dafydd Jones fel cyfieithydd ydoedd cadw'n rhy gaeth i'r llythyren yn hytrach nag aralleirio meddyliau Watts. Fe'i caethiwodd ei hun hefyd i'r mesurau gwreiddiol, a thrwy hynny collodd y salmau a'r emynau lawer o'u hystwythter a'u gwres. Eithr er hyn i gyd, bu'r cyfieithydd yn lled lwyddiannus ar y cyfan, a rhagorodd ar y gwreiddiol mewn rhai emynau. Pwy a dybiai mai trwy feddwl Sais y daeth y rhai a ganlyn gyntaf?
Mewn bywyd mae gwasanaeth Duw, etc.
Coffawn yn llawen, gyda pharch, etc.
Mae gwlad o wynfyd pur heb haint, etc.
Yr Iesu a deyrnasa'n grwn, etc.
Gwyn fyd yr hwn nid â ar hyd
Ffordd lydan annuwiolion byd, etc.