Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn 1771 cyhoeddwyd cyfieithiad Dafydd Jones o Ganiadau Dwyfol . . . mewn iaith esmwyth . . . i Blant, gan y Dr. Watts. Prin y bu'r awdur mor ffodus gyda'r "Caniadau "a chyda'i gyfieithiadau eraill. Dichon mai gorchest fwyaf Watts ydoedd cyfansoddi emynau digon syml mewn iaith a syniadaeth i blant ei oes. Gwnaeth Dafydd Jones yntau ymdrech deg i'w cyfieithu, eithr methodd â'u gwneuthur yn gyfryngau addas moliant plant Cymru. Gwrthodai meddyliau syml y Sais a chartrefu yng Nghymraeg y Cymro. Ni ddioddefa praffter a chadernid lawer wrth eu trosglwyddo, ond rhaid wrth law ysgafn a thyner i drin symledd a swyn. Braidd yn llawdrwm oedd Dafydd Jones i drin emynau plant, a methodd yn bennaf oherwydd anaddaster yr iaith i'r meddyliau. Wrth amcanu bod yn syml aeth yn rhy werinaidd a chyffredin. Nid yw'r cyfieithiad agos mor ystwyth a'i eiddo o'r salmau.

Ni ddyfynnir o'r llyfr hwn fwy nag un pennill, sef "Y deg Gorchymyn o'r Hen Destament, wedi eu gosod mewn Cynghanedd ferr i Blant:"[1]

1. Na foed it dduwiau ond Myfi,
2. Un eulun nac addola di.
3. Nac ofer gymmer enw Duw,
4. Na lygra'r Sabboth, sanctaidd yw.
5. Rho i'th rieni barch a bri,
6. Na wna lofruddiaeth, gochel di.
7. Cadw rhag aflan air neu waith,
8. Er tlodi na ladratta chwaith.
9. Na fydd, na châr fod yn gelwyddog,
10. Na chwenych eiddo dy gymydog.[2]

YR EMYNAU GWREIDDIOL.

Cyhoeddwyd emynau gwreiddiol Dafydd Jones yn dair rhan, dan yr enw "Difyrwch i'r Pererinion." Rhif

  1. Tybia rhai nad eiddo gwreiddiol y Dr. Watts ydyw'r pennill.
  2. Yn 1775, cyhoeddwyd cyfieithiad Dafydd Jones o "Hymnau a Chaniadau Ysbrydol, gan Isaac Watts, D.D"