Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

emynau'r tair rhan ydyw 127; eithr dywed y Parch. Thomas Rees, D.D., bod ei emynau gwreiddiol yn 167.[1] Gall hyn fod yn gywir. Dichon y gwyddai'r Dr. Rees am emynau i'r awdur nad ydynt yn ei lyfr.

Nid grawn i gyd a geir gan yr hen emynwyr, y mae llawer o us gan Pantycelyn,—eithr y mae ganddynt rawn, a hwnnw'n iach a maethlon, a mwy ohono nag a gaed byth wedyn. Y mae llawer o emynau "Difyrwch i'r Pererinion" yn ddiffygiol o ran ynni a gwres a chwaeth; ond y mae ynddo amryw â digon o ysbrydiaeth ac eneiniad ynddynt i ddiogelu hyd byth safle'r awdur fel emynydd. Pa Gymro crefyddol sydd na ŵyr am y rhai a ganlyn, a pha fardd sydd na fyddai'n falch o fod yn awdur unrhyw un ohonynt:

Clywch genhadon Duw yn galw;
Bechaduriaid heddyw dewch, etc.

Mae arnaf eisiau sêl i'm cymell at dy waith,
Nid ddim rhag ofn y gosb a ddêl, nac am y wobr chwaith, etc.

Wele, cawsom y Messia, etc.

Plant ydym eto dan ein hoed, etc.

Mae, mae yr amser hyfryd yn nesau,

O! Arglwydd, galw eto, etc.

Caersalem, dinas hedd, etc.

Y mae gan yr emynydd yn y "Difyrwch " rai caneuon maith a buddiol iawn a brawf ei awydd angherddol i lesoli ei gyd-wladwyr. Dyfynnwn ddau bennill o un a deilynga sylw ieuenctid yr eglwysi ymhob cenhedlaeth. Cân o Gynghor i beidio ieuo yn Anghymharus":

Wŷr ieuainc a gwyryfon, blant ffyddlon Sion sydd,
O fewn i Gymru'n trigo, yn rhodio a'u dwylaw'n rhydd,
Ac yn bwriadu newid eu cyflwr eto ar hyn,
Clywch air neu ddau o gynghor, yn sobr ac yn syn;

  1. Hist. of Non. in Wales, p. 402.