Ni welwn yn y 'Sgrythyr orchmynion eglur iawn, |
Ymddengys fod Dafydd Jones yn cymdeithasu llawer â'i Dduw, a gwyddai fwy na'r cyffredin o grefyddwyr ei oes am orfoledd crefydd, oblegid cân bob amser ar yr uchelfannau. Dyn prysur, glân ei galon a thawel ei gydwybod ydoedd, yn byw yn yr awyr agored, ac ni allai ganu'n lleddf. Nid oes ganddo un emyn a chŵyn neu brudd-der ynddo; eithr y mae ei ganu i gyd yn gyforiog o nodau llon a hyderus. Pa mor wych bynnag ydyw'r cyfieithiadau, credaf bod yr emynau gwreiddiol yn rhagori arnynt. Parhant i ddifyrru'r pererinion â'r difyrrwch. sydd yng ngwydd y Brenin. Nid oes i Dafydd Jones, o Gaio, safle fel bardd ond ym myd yr emyn, eithr yn y byd hwnnw ni ragora llawer arno. Pantycelyn, yn ddiau, sydd ar y blaen, a Morgan Rhys a Dafydd William yn cadw golwg arno, ac y mae Dafydd Jones ar eu cyfyl hwythau. Dywed y Dr. Thomas Rees y dylid rhestru Dafydd Jones yn nesaf at William Williams;[1] eithr nid. ydyw'n ddiogel dibynnu ar farn Dr. Rees, am emyn beth bynnag am ffeithiau hanes, oblegid dywed ef beth cyffelyb am Thomas Williams, Bethesda'r Fro.[2] Yn ol