Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

barn Rees nid oes ond emynau goreu Pantycelyn yn rhagori ar eiddo Emynydd y Fro. Ni all Dafydd Jones fod y nesaf at Williams ond yn unig ar gyfrif rhif ei emynau. Rhwng cyfieithiadau ac emynau gwreiddiol y mae eiddo Dafydd oddeutu 8oo. Nid oes un casgliad o emynau a gyhoeddwyd at wasanaeth yr eglwysi o 1791 hyd 1925 heb amryw o salmau ac emynau y bardd o Gaio ynddo. Gwnaeth waith mawr a bendithiol. Huned yn dawel yn naear Crugybar oni chyfarfyddom oll yng "Nghaersalem, dinas hedd.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Morgan Rhys
ar Wicipedia





II. MORGAN RHYS.

Dyn heb hanes iddo ydyw Morgan Rhys. Wrth ddechreu ysgrifennu arno daw i fy meddwl ddwy linell gyntaf emyn:

Yn y nos y bum yn trigo,
Nos heb loer, na sêr, na swyn.

Y mae'n rhyfedd na wyddys mwy am dano ac yntau'n un o brif emynwyr y genedl, a ni'n gwybod cymaint am ei gyfoeswyr llai eu gwerth. Dywed Enwogion y Ffydd am Morgan Rhys, "Y mae ei hymnau ef ym mysg y rhai mwyaf arferedig yn ein plith, ac y maent yn gyfartal ymhob ystyr i waith prif fardd a phrif farddones Cymru,—Williams o Bantycelyn, ac Ann Griffiths o Ddolwar Fach." Aiff rhai mor bell a dysgu mai ef ydyw prif emynydd ein gwlad, ac nid oes neb cyfarwydd a'i waith yn sicr fod y farn yn eithafol.

Unig ffynonellau gwybodaeth sicr am yr awdur ydyw Welch Piety y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, a'i emynau ef ei hun. Ni wyddys ddim am dano cyn 1757. Y mae bore'i oes cyn dywylled â'r nos heb na lloer na sêr, ac nid oes sicrwydd am ddim yn ei gylch wedi'r flwyddyn 1775,—dim ond ei gladdu ym mynwent Eglwys plwyf Llanfynydd, yn Awst, 1779. Nid oes o'r tadau un y gwyddys llai o'i hanes. Er hynny, y mae mor enwog â'r goreu