Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ohonynt. Goleuodd awyrgylch meddwl a moes Cymru, eithr ni welir ei lwybr mwy nag eiddo'r wawr. Y mae anfarwoldeb Morgan Rhys, fel eiddo rhai o brif feirdd y byd, yn seiliedig ar gynnyrch ei feddwl a'i brofiad, ac nid ar ei amgylchiadau.

Nid oes brinder math ar gofiannau iddo; ond y mae ymron bopeth pob cofiant yn seiliedig ar dybiaeth a thraddodiad, a phan fo ffeithiau'n brin am ddyn mawr y mae traddodiad yn hael. Ni fu mwy o ddyfalu am ddyn erioed nag am Morgan Rhys. Tybir ei eni yng Nghilcwm, pentref bychan bedair milltir o dref Llanymddyfri. Oddiwrth ei waith fel emynydd tybir ei argyhoeddi o bechod a'i ail-eni, a thyb noeth hefyd ydyw mai Howel Harris neu Daniel Rowlands a fu'n gyfrwng y cyfnewidiad. Ni wyddys am sail dda ond yn unig i'r ail dyb, a cheir y sail hon yn ei emynau. Dywed Methodistiaeth Cymru bod yn eglwys Fethodistaidd Llanfynydd "liaws o ddynion da eu gair, eiddigeddus eu hysbryd, a ffyddlawn eu gwasanaeth, megis Morgan Rhys, awdur yr hymnau, William Morgan Thomas, Galltllan, Thomas Lewis, Pantgwineu, etc." Ni wyddys ar ba sail y dywedir hyn onid ar sail traddodiad. Cymer pob ysgrifennydd yn ganiataol i Morgan Rhys dreulio'i oes fel crefyddwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac iddo fod yn gynghorwr neu bregethwr am flynyddoedd. Dywed Mr. Morris Davies, Bangor, yn ei ysgrifau ar Emynyddiaeth,[1] "Ymunodd â'r Methodistiaid yng Nghil-y-Cwm, lle y bu yn aelod defnyddiol trwy ei oes, ac heblaw cadw ysgol fel y soniwyd bu yn llafurio fel pregethwr neu gynghorwr yn dra chymeradwy am lawer o flynyddoedd." Eithr nid oes brawf iddo ymaelodi gyda'r Methodistiaid yng Nghilcwm nac unrhyw fan arall. Y mae prawf na fu'n aelod yng Nghilcwm "trwy ei oes." Credir a dysgir hefyd gan bawb a fu'n dyfalu troeon gyrfa'r emynydd iddo sefydlu ysgol ar ei gyfrifoldeb ei hun yn ardal Capel Isaac, rhwng Llan-

  1. Traethodydd, 1872.