Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fynydd a Llandeilo Fawr. Y mae hyn yn bosibl, ond ni cheir dim i brofi iddo wneuthur hynny. Ac os gwnaeth ni fu yno ond am dymor byr iawn, ac nid "am ran helaeth o'i oes" fel y dysg y Dr. Moelwyn Hughes,[1] oblegid y mae sicrwydd ei fod o 1757 hyd 1775,—bedair blynedd cyn ei farw, yn athro ysgol tan y Parch. Griffith Jones a Madam Bevan.

Y mae pob ysgrif ar Morgan Rhys—eiddo Enwogion y Ffydd, Geiriadur Bywgraffyddol y Parch. J. T. Jones, Emynyddiaeth Mr. Morris Davies, yn y Traethodydd, a phob ysgrif arall a ddarllenais, ac eithrio un, yn llawn o dybiaethau disail. Er rhagored y llyfrau uchod ni ellir dibynnu arnynt am ddim o hanes yr emynydd. Yr ysgrif sy'n eithriad ydyw eiddo Elfed ar ddechreu Gwaith Morgan Rhys.[2]

Cyhoeddodd y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yn gyson am flynyddoedd, adroddiadau o gyflwr a gweithrediadau'r Ysgolion Cylchredol, tan yr enw Welch Piety. Dechreuwyd cyhoeddi'r adroddiadau yn 1737,[3] ac o'r flwyddyn 1741 ymlaen ceir ynddynt lythyrau oddiwrth offeiriaid ac eraill yn tystiolaethu i ffyddlondeb a llwyddiant yr athrawon. Yn y llythyrau hyn ceir sicrwydd i Morgan Rhys fod yn athro yn yr Ysgolion Cylchredol am o leiaf ddeunaw mlynedd, o 1757 hyd 1775, a cheir ffeithiau eraill ynddynt a rydd derfyn ar lawer o ddyfalu ynglŷn â phreswylfod, gwaith, a chymeriad yr emynydd. Yn yr Adroddiadau a gyhoeddwyd yn ystod bywyd Griffith Jones ni cheir onid llythrennau dechreuol enwau'r athrawon, megis "H—T—," "M—R—," eithr wedi ei farw ef a dyfod yr ysgolion tan ofal Madam Bevan, rhoddir weith-

  1. Traethodydd, Ionawr, 1915.
  2. Gwaith Morgan Rhys, Rhan I., o dan olygiaeth y Parch. H. Elvet Lewis, M.A., 1910.
  3. The Welsh Charity Schools, p. 6, Principal David Salmon, a Griffith Jones, Llanddowror, Cymdeithas y Traethodau Crefyddol. Eithr dywed Elfed yng Ngwaith Morgan Rhys, tud. 17, gyhoeddi'r cyntaf yn 1734. Y cynharaf yn y Ll. G. a LI. Gyh. Caerdydd ydyw 1738—39.