Tudalen:Prif Feirdd Eifionydd.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Enw priodol Eben Fardd oedd Ebenezer Thomas. Byddai yn arferiad y pryd hwnnw i'r plant gymeryd enw cyntaf y tad yn enw teuluol.

Yr oedd yn hoff o'i lyfr pan yn dair blwydd oed, a pharhaodd i hoffi darllen ar hyd ei oes.

Faint o honoch chwi sydd yn hoff o ddarllen llyfrau da? Os nad ydych,

"'Does dim ond eisieu dechreu,"

fel y dywed Ceiriog, a byddwch yn sicr o ddal ati. Cofiwch yr hen ddihareb,— Ni bydd doeth na ddarllenno." Ni lwydda un ohonoch byth i ddod yn enwog heb ddysgu caru llyfrau da a charu addysg.

Bu Eben Fardd yn yr ysgol yn Llofft y Llan," Llangybi, gyda Mr. Issac Morris. Ar ol ei ddyddiau ysgol cyntaf bu yn gweithio gyda'i dad fel gwehydd am rai blynyddoedd. Ond yr oedd ei holl fryd ar lyfrau ac astudio. Oherwydd hynny anfonwyd ef i'r ysgol drachefn, i Abererch, ac wedi hynny i ysgol Tydweiliog.

Dywedir ei fod yn dechreu dangos talent i farddoni pan oedd tua phedair ar ddeg oed, a'r adeg yma enillodd sylw beirdd yr ardal, Robert ap Gwilym Ddu, Dewi Wyn a Sion Wyn. Mae'n debyg iddo fanteisio llawer ar gwmni'r beirdd enwog yma. Dywed ei hun,—

"Yn fachgen syn wrth draed Sion Wyn,
Y bum yn derbyn dysg."

Os adwaenoch fardd neu lenor gwych, ceisiwch ei gwmni gymaint ag a ellwch. Bydd ei ddylanwad, fel gwlith ar y glaswellt, yn ireiddio eich meddwl.

Cwestiwn pwysig gennych chwi, onide, yw pa fath chwareuwr fydd rhyw blentyn. Ofnaf na buasai Eben Fardd, pe gyda chwi yn blentyn, yn ffefryn gennych yn yr ystyr yma. Yr oedd yn rhy hoff o feddwl a myfyrio i chware llawer. Bachgen gŵyl-