aidd, llednais a thawel oedd. Ond pan ddigiai wrth y plant defnyddiai fflangell yr awen i'w ceryddu.
Oherwydd ei fod yn fachgen tawel, ac nad oedd yn hoff iawn o chware, galwai y plant ef weithiau, o ran hwyl, yn Lleban yn lle Eban, a dyma fel y canodd iddynt —
"Enllibwyr a'm galwo'n lleban,—elont
I waelod pwll aflan,
Bywiog anifail buan,
Teirw neu feirch a'u torro'n fan.
"Chwain a llau, ychain a llewod,—ruthro
Ar wartha'r llebanod;
Chwyther gan eirth a chathod,
Y rhain odditan y rhod."
Cyfansoddodd amryw o englynion a chywyddau pan tua deunaw oed. Yr adeg yma cawn iddo gyfansoddi dau "Gywydd Diolch" dros ryw gyfeillion iddo. Sut y byddwch chwi yn diolch am anrheg? Drwy lythyr Saesneg mae'n debyg. Pe gallai rhai ohonoch ddiolch am anrheg mewn pennill, neu englyn, neu gywydd, fe'i cedwid, a hwyrach y byddai byw ar eich ol chwi.
Ar ol gadael ysgol Tydweiliog daeth Eben Fardd yn ysgolfeistr i Langybi, a thra yno enillodd gadair Eisteddfod y Trallwm am ei awdl ar "Ddinistr Jerusalem." Nid oedd ef yr adeg yma ond dwy ar hugain oed.
Yn y flwyddyn 1827 symudodd i Glynog Fawr i gadw ysgol, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes.
Yn 1840 enillodd Gadair y Gordofigion, yn Lerpwl, am ei awdl ar "Job." Yn 1858 enillodd Gadair Eisteddfod Llangollen am awdl ar "Faes Bosworth."
Cyfansoddodd lawer iawn o gywyddau, englynion ac emynau, ac awdlau heblaw y rhai a enwyd uchod. Yr oedd yn ysgolfeistr rhagorol ac yn gyfaill cywir i'r plant. Buasech wrth eich bodd yn ei ddos-