Tudalen:Prif Feirdd Eifionydd.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

barth. Gwn yn dda nad oes dim sydd well gennych, ar dro, na phennill doniol neu englyn pert. Felly, mae'n debyg iawn, y difyrrai Eben Fardd blant yr ysgol.

Yr oedd yn enwog fel beirniad, a bu yn beirniadu mewn lliaws o Eisteddfodau mwyaf Cymru. Ni chlywid neb yn cwyno oherwydd ei feirniadaeth; yr oedd bob amser mor deg a gonest.

Mewn cwmni yr oedd yn ddyn tawel a distaw. Glywsoch chwi yr hen ddihareb, Mwya' 'u trwst llestri gweigion"? Wel, nid un o'r rheiny oedd Eben Fardd, ond un yn meddwl mwy nag oedd yn siarad. Mewn englyn at Robyn Ddu mae'n rhoddi darlun ohono ei hun fel y canlyn:

Dyn sur, heb ddim dawn siarad—wyf fi'n siwr,
Ofnus iawn fy nheimlad;
Mewn cyfeillach swbach sad,
A'i duedd at wrandawiad."

Ni chewch yn y llyfr yma ond ychydig o'i waith— y darnau hawddaf i chwi eu mwynhau; ond mynnwch ddarllen eu awdlau ar "Ddinistr Jerusalem," "Job," "Maes Bosworth," ac yn wir y cwbl o'i waith, pan ddeloch ddigon hen i'w ddeall.

Gadawodd Eben Fardd ddylanwad a bery ar lenyddiaeth ei wlad, ar yr Eisteddfod, ac ar y Cymdeithasau Llenyddol.

Bu farw yn y flwyddyn 1863, a chladdwyd ef ym mynwent Clynog Fawr. Perchwch ei enw.