Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond sut y medraf orphwwyso tra nad allaf fyned allan o'm tŷ heb gyfarfod degau o ddynion truain yn segura, ac nid hyny yn unig ond yn dyoddef angen. Na, syr, er fy mod wedi cyraedd yr oedran hwnw pryd, mewn ffordd o siarad, yn ol trefn natur, y dylai dyn gael gorphwys a chael hamdden i feddwl am bethau pwysicach ac ymbarotoi ar gyfer y siwrnai fawr sydd yn ein haros oll—pa fodd y medraf orphwyso? Nid wyf yn annghofio, syr, eich bod chwi, ac eraill sydd yn y cyffelyb amgylchiadau, sydd, o'ch caredigrwydd, wedi coelio y gweithwyr, druain, â digon o ymborth i gadw corph ac enaid wrth eu gilydd—nid wyf yn annghofio, meddaf, fod arnoch eisiau eich arian—hyny ydyw, nid am nad ellwch wneud hebddynt—ond am fod yn iawn i chwi eu cael. Na, syr, gyda thipyn o ysbryd anturlaethus ar ran y rhai sydd wedi llwyddo tipyn yn y gymydogaeth, a bendith Rhagluniaeth, fe fydd golwg arall ar bethau yn mhen ychydig wythnosau, Mr. Jones."

Fel hyn, yn ngwyneb yr amgylchiadau cyfyng a'r tlodi mawr oedd yn yr ardal, yr oedd y Capten yn cadw y mwnwyr ac eraill ar flaenau eu traed mewn disgwyliadau am rywbeth i droi i fynu. Yn y cyfamser, ymwelai Enoc Huws yn fynych â Thy'nyrardd, ac ni chauodd y cymydogion eu llygaid rhag gweled hyn. Sylwyd fod Enoc mewn byr amser wedi ymdwtio ac ymloewi gryn lawer. Yr oedd y gŵr difrifol, y masnachwr cefnog, ond diofal yn ngylch ei wisgiad, wedi sythu, ymhoewi, ac ymdecâu nid ychydig. A rhyfeddach fyth, gwelwyd fod Miss Trefor, hithau wedi dofeiddio, sobreiddio, ac wedi tanu ymaith ei holl addurniadau. Pa gasgliad arall y gallai y cymydogion dd'od iddo heblaw fod Enoc Huws a Miss Trefor yn cymhwyso eu hunain i'w gilydd? Am ddyddiau rai ni fu y fath fyn'd a dyfod i yfed tê yn mhlith y cymydogesau er mwyn cael cyfleusdra i drin yr achos. Dechreuid pob ymdrafodaeth a fu ar achos Enoc drwy gymeryd yn ganiatâol ei fod ef a Miss Trefor wedi eu dyweddïo. Cydolygid yn gyffredinol fod Miss Trefor yn llawer mwy ffortunus yn ei dewisiad nag Enoc. Cyfaddefid gydag unfrydedd fod Enoc yn gefnog, ac yn un tebyg o wneud gŵr da, tra na feddai Miss Trefor ddim i'w ganmol ond prydferthwch canolig, yr hyn, wedi'r cwbl, nad oedd o un gweith tuag at fyw, ac hefyd "ideas" ffol —neu mewn geiriau eraill—falchder penwan. Pryderai y boneddigesau hyn—ac nid ydyw o un dyben, un amser, dweyd